Mae’n rhaid i ysbytai Cymru fuddsoddi mewn ‘robot’ a allai wella dynion sy’n diodde’ o ganser y prostad, yn ôl dioddefwr sydd bellach yn holliach.
“Fe ges i y diagnosis ychydig dros flwyddyn yn ôl,” meddai Dai John, “ac oherwydd bod dim triniaeth robotig i’w chael yng Nghymru, fe fu’n rhaid i mi dalu £13,000 am y driniaeth yn Lloegr.”
Mae Dai John yn byw yng Nghas-gwent, chwe milltir o’r ffin, ac mae’n credu ei bod hi’n annheg bod 37 o ‘robotiaid’ yn Lloegr, lle mae’r driniaeth am ddim i bob dyn yn y wlad honno.
“Mae’n rhaid i ni ymgyrchu nawr i dynnu sylw gwleidyddion a’r cyhoedd… oherwydd mae’r driniaeth hon yn achub bywydau,” meddai.