Yr Orsedd
Mae Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi amddiffyn Mam y Fro eleni – er ei bod yn dewis anfon ei phlant i ysgol Saesneg yn y Fro.

“Allwn ni ddim gofyn y cwestiwn i ymgeiswyr am y swydd,” meddai Hywel Wyn Edwards am y ‘Fam’ sy’n cyflwyno’r corn hirlas i’r Archdderwydd yn seremoniau’r Orsedd.

“Rydyn ni’n disgwyl eu bod nhw’n siarad Cymraeg, a’u bod nhw’n cefnogi yr iaith Gymraeg a’r diwylliant.”

Mae Golwg360 yn deall fod y ffurflen ymgeisio wedi ei haddasu ers ychydig dros flwyddyn, i gynnwys adran lle mae gofyn i ymgeiswyr restru’r hyn y maen nhw’n ei wneud yn ymarferol i gefnogi amcanion yr Eisteddfod.