Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynhyrchu rhwng 100 a 150 tunnell o wastraff – a bydd canran sylweddol o hwnnw’n cael ei allforio i China.
“Fe fydd y gwastraff yn cael ei ddidoli ganddon ni, ac wedyn yn cael ei ddodi mewn bêls, a’i anfon i China a mannau eraill yr ydyn ni’n anfon ein cynnyrch,” meddai Tina Jenkins, un o gyfarwyddwyr cwmni SiteServe, sy’n darparu gwasanaeth ail-gylchu ar y Maes ym Mro Morgannwg.
Fe fydd y gwastraff sy’n mynd i China yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu dillad, meddai wedyn.
Roedd Tina Jenkins yn siarad wrth i’r cwmni gyhoeddi mai yn yr hen hangars wrth geg y ffordd i mewn i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, y bydd pencadlys newydd y cwmni.