Nigel England - pennaeth y cwmni
Mae cwmni ailgylchu gwastraff wedi cyhoeddi buddsoddiad yn eu busnes y drws nesa’ i Faes yr Eisteddfod.
Fe fydd Siteserv Recycling yn gwario £400,000 ar Fyrnwr newydd i baratoi deunyddia plastig, cardfwrdd, papur ac alwminiwm ar gyfer eu hallforio.
Mae’r cwmni’n cyflogi 120 o weithwyr mewn sawl safle, gan gynnwys Stad Ddiwydiannol Llandŵ a Phencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar hyn o bryd, maen nhw’n allforio gwerth £13 miliwn o ddeunyddiau bob blwyddyn.