Cai o Dalwrn, Ynys Mon
Tybed ai bachgen o Dalwrn, Sir Fon, fydd cystadleuydd mwya’ llwyddiannus Bro Morgannwg eleni?

Mae eisoes wedi cipio pedair gwobr – ac yn cystadlu eto fory hefyd. Daeth yn gyntaf am lefaru o’r Ysgrythur dan 16; yn ail ar yr Unawd i Fechgyn 12-16 oed; yn 3ydd ar y Llefaru 12-16 oed; ac yn 3ydd eto ar yr Unawd Cerdd Dant 12-16.

Yfory, fe fydd yn cystadlu ar yr Unawd Alaw Werin 12-16 oed.

“Yr adrodd o’r Ysgrythur wnes i fwynhau fwya’,” meddai Cai. “O’n i ddim wedi trio hynny o’r blaen, ond mi wnes i fwynhau achos fy mod i’n hoffi dweud stori.”