Newyddion “annisgwyl” oedd cael y llythyr yn ei hysbysebu ei fod wedi’i dderbyn i gael Gwisg Werdd yn yr Orsedd, meddai’r academydd o Aberystwyth, Ned Thomas.
Fel rhywun sydd ddim “yng nghanol pethau eisteddfodol”, dywed nad oedd erioed wedi croesi ei feddwl y byddai’n cael y gwahoddiad.
Ond mae’n falch iawn o dderbyn ac yn dweud ei fod “mewn cwmni da” eleni, wrth gyfeirio at y rhestr hirfaith o bobol eraill fydd yn cael eu hurddo ym Mhrifwyl Caerdydd ym mis Awst.
Mae’r beirniad llenyddol, yr ieithydd a’r golygydd, oedd yn un o’r rhai a geisiodd sefydlu papur newydd dyddiol Y Byd, yn cael ei gydnabod fel un o brif ddeallusion Cymru a’r Gymraeg.
“Roedd o’n reit annisgwyl pan ges i lythyr gan yr Orsedd, roeddwn i rywsut erioed wedi meddwl am y peth,” meddai wrth golwg360.
“Mae rhywun yn tueddu meddwl bod pethau eisteddfodol efallai yn fyd… dw i ddim yng nghanol pethau eisteddfodol.
“Pan chi’n gweld y rhestr, chi’n gweld bod o’n adlewyrchu ystod o fywyd y genedl i ddweud y gwir.
“Efo anrhydeddau dw i’n tueddu meddwl bod chi’n eu gwerthuso nhw yn ôl pwy sy’n rhoi nhw ac mae’r Eisteddfod yn gorff mae rhywun yn falch iawn o dderbyn eu sêl bendith nhw mewn ffordd.
“A’r peth arall yw ym mha gwmni ydych i, dw i ddim yn ‘nabod pawb o’r rhestr ond dw i’n teimlo fy mod mewn cwmni da iawn a bod hynny’n anrhydedd hefyd.”