“Mae o’n anrhydedd mwy na fi, yn dalach na fi o beth goblyn beth bynnag!” meddai Mici Plwm wrth golwg360 ar ôl y cyhoeddiad y bydd yn cael ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd yng Nghaerdydd ddechrau Awst.
“Mae o’n anrhydedd enfawr, dw i wedi bod yn trio meddwl am ansoddeiriau i gyfleu sut dw i’n teimlo, ond ‘anrhydedd’ yw’r unig air sy’n dod i’r pen yma sydd gen i.”
Bydd Mici Plwm, sy’n adnabyddus am ei ddisgos Cymraeg yn y 1960au ac am chwarae rhan Plwmsan yn Syr Wynff a Plwmsan, yn cael ei urddo mewn Gwisg Werdd am ei gyfraniad i’r Celfyddydau yn y Brifwyl yng Nghaerdydd eleni.
A phan ddaeth y newyddion drwy’r post, dywed ei fod bron â gwneud tin-dros-ben i ddathlu.
“Dw i ddim yn gwybod am sioc, dim bod fi’n disgwyl y peth o gwbwl,” meddai.
“Pan ddoth y llythyr, yr ymateb cyntaf oedd be wna i, wna i din dros ben ar fy’n ôl ond roeddwn i’n meddwl gwell i mi beidio yn yr oed dw i rŵan dyddia’ yma.
“Mae un peth yn sicr, does dim rhaid iddyn nhw fynd i siop high and mighty i gael coban fach i mi, na fydd!”