Mae un o leisiau radio mwyaf adnabyddus Cymru yn dweud ei bod hi’n “braf cael cydnabyddiaeth” wrth i’r newydd ddod y bydd yn cael ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd ym mhrifwyl Caerdydd eleni.
Mae John Hardy, cyflwynydd Radio Cymru, sydd wedi cael ei dderbyn i’r Wisg Las am ei wasanaeth i’r genedl, yn gobeithio cael ei urddo i’r Orsedd ac ymuno â’i dad, Dr Ken Hardy, sydd eisoes yn aelod.
“Mae’n anrhydedd, yn amlwg, mae hefyd yn fraint annisgwyl iawn,” meddai wrth golwg360.
“Gath fy nhad ei urddo i’r Orsedd yn ôl yn Eisteddfod Llanrwst (1989), felly ac yntau yn ei 90au, mae’n braf bod y ddau ohonom ni yn medru ymddangos yn yr Orsedd gyda’n gilydd, er nad ydy o’n dda iawn ar hyn o bryd.
“Beth sy’n synnu dyn yw bod o erioed yn uchelgais o unrhyw fath ond mae o’n braf cael y gydnabyddiaeth ar ôl deugain mlynedd o ddarlledu.
“Mae’r gwaith yn ddigon o ddiolch ynddo ei hun… dw i’n brin o eiriau a dydi hynny ddim yn digwydd yn aml iawn.”