Wel, ar ôl chwe mis o ymarfer, mae’r noson fawr ar fin cyrraedd. Noson fawr Côr Gwerin yr Eisteddfod yng nghwmni’r grŵp gwerin Pedair (Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Siân James) yn perfformio yn y Pafiliwn Mawr ym Moduan nos Sadwrn yma. Wel!
Fe werthodd tocynnau’r cyngerdd – ‘Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory’ – fel slecs mewn hanner awr ond mi fydd hi ar y teledu ryw ben, medden nhw.
Mae tua 200 o aelodau yn y Côr ac rydyn ni wedi bod yn teithio ’nôl a blaen rhwng Caernarfon a Phwllheli ar gyfer yr ymarferion, bob yn ail ddydd Sul. Mae hi wedi bod yn fraint gweld cyngerdd mor fawr yn dod at ei gilydd, a chael ein harwain gan Gwenan Gibbard a Sian Wheway. Mae llawer o’r gwaith trefnu wedi digwydd y tu ôl i’r llenni ond o ran y côr, mae wedi bod yn rhwydd iawn, ac yn llawer iawn o hwyl.
Lleisiau cefndir i Pedair
Yn y trydydd ymarfer, ar Chwefror 26, y cawson ni’r blas cynta’ ar fod yn backing-singers i Pedair. Dyma rywun yn pwyso ‘play’ ar un o draciau Pedair, a dyma ninnau’n ymuno yn y darnau roedden ni wedi’u dysgu. Ar yr ymgais gynta’, mi lwyddon ni i gadw’n agos at ein lle a chwblhau’r gân drwyddi. Dyna wefr! A dyna pryd y sylweddolais fod y profiad am fod yn un arbennig iawn.
Braf oedd gweld ymateb Gwyneth Glyn wrth iddi wrando ar 200 o bobol yn cyd-ganu ei chân ‘Mae na Olau’, sy’n dipyn o anthem i’r côr. Tipyn o beth mae’n siŵr, ar ôl cyfansoddi cân ar eich pen eich hun bach.
O hynny ymlaen, fe dyfodd y peth go iawn. Symudodd yr ymarferion o Ysgol Glan y Môr, Pwllheli i Neuadd Cricieth, ac o Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon i Theatr Seilo. Yn raddol, fe ddysgon ni’r caneuon a dod i’w gwerthfawrogi fwyfwy ym mhob ymarfer. Yn ogystal â chanu addasiadau o ganeuon Pedair, mae cael canu addasiadau Gwenan Gibbard o alawon J. Glyn Davies (caneuon ‘Fflat Huw Puw’) yn brofiad arbennig. Anodd dychmygu’r holl waith caled mae hi a’r arweinwyr eraill wedi ei roi i’r holl fenter.
Sêr yn ymuno
Un peth yw canu llais cefndir i siwpyr-grŵp gwerin y foment, Pedair. Ond yna cawson ni wybod y bydd yna gantorion eraill yn ymuno â ni ar y noson, a’n bod ninnau am gyd-ganu ar eu perfformiadau nhw. Ond pwy?
Y band i ddechrau: cerddorion o fri, fel y feiolinydd Patrick Rimes, y sacsoffonydd Edwin Humphreys a brodyr Cowbois Rhos Botwnnog. A’r gwesteion wedyn – Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn, Twm Morys, y clocsiwr Tudur Phillips… Roedd y cynnwrf yn codi fel ymchwydd ton drwy’r côr wrth iddyn nhw ddatgelu’r enwau fesul un.
Roedd yr ymarfer cynta’ gyda’r band ddechrau Gorffennaf yn Theatr Seilo yn antur fawr i ni. Pawb yn rhyfeddu ac eiddigeddu at eu doniau.
Un o sêr y band i mi yw Alwena Roberts, fu’n cyfeilio’n dawel ddiwyd ar y piano i ni ers y dechrau. Un sy’n gwbl broffesiynol wastad ond sy’n rhoi ambell i swadan grafog, angenrheidiol bob hyn a hyn, sy’n gwneud i bawb chwerthin. Mae hi’n enw mawr yn y byd cerdd dant, a braf oedd ei chael hi’n ein harwain ar y darn cerdd dant (geiriau newydd gan Guto Dafydd, wedi’u rhoi ar gainc ‘Llwynhudol’ gan Nan Elis). Fe’n siarsiwyd ni i beidio â ‘morthwylio’ wrth ganu. Fydd yna neb yn morthwylio ym Moduan.
Bu hefyd i ni golli sawl deigryn ar y daith, ar ôl clywed am farwolaeth un o ffyddloniaid y côr a’r Eisteddfod, Llyr Roberts, a Mair Gibbard, mam annwyl Gwenan – un yr oedd nifer o aelodau’r côr yn ei hadnabod. Roedd Mair yn perthyn i Gôr yr Heli (côr gafodd ei sefydlu gan Gwenan ac Alwena Roberts yn 2016), ac mae sawl aelod lleol y Côr Gwerin yn aelod o’r côr hwnnw hefyd.
Yr ymarfer ola’ ond un
Nos Sul diwethaf y daeth popeth at ei gilydd, wrth i’r holl gerddorion ymroi i oriau o ymarfer yn Theatr Seilo. Roedd hi’n gyngerdd ragflas o fath i ni – a’r gymeradwyaeth yn frwd.
Wna i ddim dweud rhagor rhag sbwylio. Mi hoffwn rannu rhai o sgyrsiau difyr merched y côr gyda chi (dw i’n eistedd yn rhy bell oddi wrth y tenoriaid a’r baswyr i wybod a yw’r dynion yn parablu fel y merched yn anffodus!), ond wna i ddim. Digon yw dweud bod y drafodaeth am wisg wedi cadw Whatsapp ar dân am sawl wythnos!
Dyma baratoi felly at yr ymarfer olaf nos Wener. Bydd hi’n drueni pan ddaw’r cyfan i ben – buan y mae rhywbeth fel yma yn dod yn rhan o’ch bywyd cymdeithasol. Mae hi wedi bod yn hyfryd cael rhannu lifft a jôcs gyda thair cyfeilles annwyl ar y ffordd i’r ymarferion. Ac mae rhywun yn edrych ymlaen at weld ymateb pobol i’r arlwy.
Oes, mae yna gerdd dant ac alawon y môr. Sŵn mawr a chanu digyfeiliant. Mandolin a thelyn. Drôn a drymiau. Jôcs a chlocsio. Ac mae ein henwau yn Rhaglen Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023!