Neithiwr, wrth i mi baratoi swper, ges i neges gan BBC Radio Cymru yn dweud y byddai cyhoeddiad swyddogol fod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn dŵad i Wrecsam yn 2025.
Gofynnwyd i mi fyswn i’n hoffi mynd ar y rhaglen Dros Frecwast i drafod y mater. Wel, dwi wastad yn hapus i drafod a rhannu fy marn, ynde! Felly cytunais.
Bore ’ma, felly, fues i’n rhan o’r sgwrs wrth ddatgelu’r hyn mae cymuned Wrecsam wedi bod wrthi’n ei drafod ers dros flwyddyn bellach; yn wir, wnes i gyfeirio ato yn fy nghân ‘Diolch i Dregaron’ ym Mragdy’r Beirdd y flwyddyn ddiwethaf – wnaeth hyn ysgogi sgwrs wrth y bar wedyn gyda rhai pobol eraill y fro. Wnes i hefyd ei grybwyll yn y gân ‘Oes aur Wrecsam’ yn fy ngholofn yn rhifyn Gaeaf 2023 o gylchgrawn Barddas. Mi fydd hon yn cael ei chynnwys yn fy nghyfrol newydd am Wrecsam, fel rhan o fy mharatoadau personol at yr Eisteddfod.
Ac fel soniais ar y rhaglen bore ’ma, mae’r gymuned Gymreig yn Wrecsam wedi bod yn hel atgofion am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011, gan gymharu a ‘sidro eu bod nhw ar ei hôl hi braidd hefo’r paratoadau, a hynny gan nad ydyn nhw wedi clywed gan yr Eisteddfod.
Eisteddfod Wrecsam 2011
Wnes i fwynhau’r build-up i Eisteddfod 2011. Fues i’n aelod o’r pwyllgor llên lleol, a chadeiriais i’r sesiwn ‘Y Stori tu ôl i’r gân’ yn y Babell Lên. Roedd yn sesiwn hwyl, er gwaetha’r ddrama ddaeth yn sgîl gitâr Arwel Tanat Jarvis yn pacio fyny wrth iddo gychwyn, a Gwilym Morus yn cyrraedd fel y seren roc ag ydi e, ynghanol y sesiwn! Mi wnes i hefyd gipio un o’r prif wobrau yn yr ‘Eisteddfod yn y Dafarn’ gyda fy ngherdd ‘Llygaid’ – ar gael o fy nghyfrol ‘Rwdlan a bwhwman’. Cafodd y ‘Steddfod gryn argraff arna i yn bersonol, felly.
O ran y gymuned a’r iaith Gymraeg yn Wrecsam, y gwaddol fwyaf amlwg oedd creu canolfan ddiwylliannol ‘Y Saith Seren’. Tra bod llawer iawn o waith arloesol yn digwydd yn y colegau, trwy gyrsiau i ddysgwyr, prin iawn yw’r cyfleon tu hwnt i’r dosbarth i siarad yr iaith; mae’r ‘Saith’ yn llenwi’r bwlch yma i’r dim.
Medraf ddweud, felly, mai’r Saith Seren fyddai’r lle perffaith i gynnal yr ‘Eisteddfod yn y Dafarn’ y tro hyn, a dw i’n edrych ymlaen ato’n fawr iawn.
Ond rai wythnosau yn ôl, fues i’n rhan o sgwrs ddifyr yn y Saith Seren am y ffaith fod neb ohonom wedi clywed smic am ddechrau ar y build up cyn-Steddfodol. Pwyllgor gwaith Y Clawdd, sef papur bro Wrecsam, oedd yn bresennol, gan gynnwys aelodau Capel y Groes a Chris ‘Saith Seren’ Evans, neu ‘Seithenyn Maelor’ â rhoi ei enw yng ngorsedd i Gadeirydd y Ganolfan Gymraeg yn Wrecsam.
Roedd yn fater o bryder i rai, gan fod pawb yn brysur iawn, yn enwedig Chris sydd hefyd yn athro llawn amser yn Ysgol Morgan Llwyd, ac sydd hefo dau o blant ifanc. Yn wir, prysurdeb bywyd barodd i ni benderfynu, yn y cyfarfod hwnnw, i ddod â phapur bro Wrecsam i ben – a hynny gydag ymweliad y ‘Steddfod â’r fro ar y gorwel.
Mae angen ychydig o rybudd ar bobol brysur i fynd ati hefo trefniadau mawr, megis paratoadau at Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ymweld â’r fro!
Byddwn yn dechrau paratoi ym mis Medi 2023
Erbyn hyn, rwy’n is-gadeirydd pwyllgor llên canolog yr Eisteddfod Genedlaethol, felly mentrais geisio ymofyn ateb i’r cwestiynau hyn. Cychwynnais fy ymholiadau ddiwedd mis Mai, ond nid tan y bore ’ma ges i’r ateb roeddwn yn chwilio amdani.
Ar y rhaglen Dros Frecwast, gofynnwyd imi a yw pobol Wrecsam yn barod am brysurdeb y paratoadau, ac atebais eu bod nhw wedi bod yn barod ers sbel, gan ychwanegu’r cwestiwn pryd y byddem yn cychwyn ar y gwaith.
Mi wnaeth Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, ddweud y byddai’r gwaith yn cychwyn ym mis Medi. Braf yw cael gwybod, felly, y byddwn yn medru cychwyn ar ein gwaith mewn da bryd, ddwy flynedd cyn i’r ŵyl gyrraedd y Ddinas-Sir.
Gwaddol
Rai wythnosau yn ôl, fues i’n sgwrsio yn y Saith Seren hefo un o brifeirdd (niferus) gogledd-orllewin Cymru, a ddywedodd y byddai’n dda gweld Rob [McElhenney] a Ryan [Reynolds] yn cael eu hurddo am eu holl waith arloesol dros yr iaith Gymraeg, heb sôn am eu gwaddol nhw yn Wrecsam.
Mae hyn yn syniad ardderchog, yn fy marn i, a felly dyma cychwyn ar yr ymgyrch #urddwchrobaryan!
Ac edrychaf ymlaen at fwrlwm yr Eisteddfod ei hun, ac at gynllunio gwaddol foddhaol i fro fy mebyd – un fydd yn cynnwys y gymuned leol gymaint â phosib, megis y Saith Seren. Mae yna beryg iddi droi yn caravanserai crachach Y Fro Gymraeg… ond erthygl arall yw hynny!