Wrecsam fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2025.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal yno am y tro diwethaf yn 2011, ar dir amaethyddol i’r gorllewin o ganol y ddinas, ac mae trafodaethau ar y gweill rhwng y Brifwyl a Chyngor Wrecsam ynglŷn â’i hunion leoliad ymhen dwy flynedd.
Bydd ymgyrch yr Eisteddfod yn cael ei lansio ym mis Medi, gyda phrosiect cymunedol i godi ymwybyddiaeth ac arian yn yr ardal.
Wedi i’r Eisteddfod ymweld â Boduan yr wythnos nesaf, bydd hi’n cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf.
‘Gwefr yn y ddinas’
Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Awst 1), dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr y Gymraeg Cyngor Wrecsam, fod yr “Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn un o wyliau diwylliannol mawr y byd, a’r ŵyl gystadleuol fwyaf o gerddoriaeth a barddoniaeth yn Ewrop”.
“Mae pawb yn gwybod bod yna wefr yn ein dinas ar hyn o bryd, ac mae hwn yn mynd i fod yn gyfle gwych i groesawu pobol o bell ac agos i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant,” meddai.
“Y tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yma yn 2011, roedd yn llwyddiant ysgubol a chafodd effaith gadarnhaol ar gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.
“Does gen i ddim amheuaeth y bydd 2025 hyd yn oed yn well, a bydd llygaid Cymru – a llawer o’r byd – unwaith eto wedi’u gosod yn gadarn ar ein dinas fendigedig.”
‘Y lle i fod’
“Rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i Wrecsam ymhen dwy flynedd,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
“Mae llawer wedi newid yn y ddinas dros y pymtheg mlynedd diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o stori Wrecsam am y ddwy flynedd nesaf.
“Rydym hefyd yn teimlo’n llawn cyffro am gael dod i adnabod cenhedlaeth newydd o drigolion Wrecsam.
“Roedd gennym dîm ardderchog o wirfoddolwyr ar draws yr ardal nôl yn 2011, ac rydym yn awyddus i ddenu cymaint o bobol â phosibl i gymryd rhan yn ein prosiectau y tro hwn wrth i ni baratoi ar gyfer gŵyl wych ym mis Awst 2025.
“Wrecsam yw’r lle i fod y dyddiau hyn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael gweithio’n lleol yn y gymuned am y ddwy flynedd nesaf.”
Bydd manylion y lansiad yn cael eu cyhoeddi ddechrau mis Medi, gyda’r prosiect ei hun a’r gwaith o greu’r Rhestr Testunau ar gyfer 2025 yn dechrau ym mis Hydref.