Y prysurdeb ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw
Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch, dywed y trefnwyr iddyn nhw gael wythnos lwyddiannus iawn ar dir Llancaiach Fawr gyda 88,607 wedi ymweld â’r Maes.
Fe fu dros 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos, gyda bron i 300 o wirfoddolwyr yn stiwardio.
“Mae’r niferoedd sydd wedi ymweld â’r Eisteddfod eleni yn dda iawn ac rydym yn hapus iawn gyda sut mae popeth wedi mynd,” meddai Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.
“Hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi cynorthwyo i baratoi a threfnu’r digwyddiad arbennig hwn, ac i’r cannoedd o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino gydol yr wythnos a chyn hynny yn yr ardal yn codi arian.”
Yn ôl Sara Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, mae’r Eisteddfod wedi dangos nad iaith yr ysgol yn unig yw’r Gymraeg.
Wrth drosglwyddo’r awenau i Jeremy Griffiths, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint y flwyddyn nesaf, meddai:
“Yn sicr mae’n rhywbeth i edrych ymlaen ato ac ymfalchïo o gael bod yn rhan o ddigwyddiad mor fawr. Mae gwaith aruthrol yn cael ei wneud gan y criw yn lleol, ond hefyd gan staff yr Urdd, gyda phawb yn dod ynghyd yn ystod y digwyddiad ei hun. Mae wedi bod yn brofiad fydd yn aros gyda mi am byth ac yn sicr yn fendith i’r sir ac i’r ardal.
“Mae cynnal yr Eisteddfod yma wedi profi i blant a phobl ifanc ein hardal ni nad dim ond iaith yr ystafell ddosbarth yw’r Gymraeg.”