Dylan Huw Edwards
Dylan Edwards o Aelwyd Llundain sydd wedi ei goroni yn Brif Lenor Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015.
Mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Penweddig, ac ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd Liberal Arts yng Ngholeg King’s, Llundain.
Fe enillodd goron Ysgol Penweddig yn 2013 a Thlws Barddas yn 2012. Mae hefyd wedi ennill tri Thlws yr Ifanc mewn eisteddfodau lleol yn sgwennu adolygiadau i wefan golwg360.
Y testun eleni oedd ‘Brad’ ac roedd gofyn i ymgeiswyr sgwennu darn o ryddiaith dros 4,000 o eiriau.
O dan y ffug enw Didion 1967, roedd y gwaith yn adrodd hanes noson yn Aberystwyth ar ffurf portread ac roedd tinc o steil Dylan Thomas a Llwyd Owen yn perthyn i’w waith yn ôl y beirniaid.
Safon uchel
Yr awdures Manon Steffan Ros a Sioned Williams oedd beirniaid y gystadleuaeth eleni.
Daeth 18 cais i law ac roedd canmoliaeth i bob un mewn cystadleuaeth o “safon uchel iawn”.
Dywedodd Sioned Williams: “Mae gan Dylan ddawn i greu deialog realistig ac i fynd o dan groen cymeriadau. Mae’n waith uchelgeisiol, hyderus ac mae Dylan yn llwyr haeddu ennill coron Eisteddfod yr Urdd.”
Iestyn Tyne, Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor, Cylch Llŷn, Rhanbarth Eryri ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda Gareth Evans-Jones, Aelwyd Unigol, Cylch Eilian, Rhanbarth Môn yn drydydd.