Mae diwrnod arall ar y maes yng Nghaerffili yn dirwyn i ben, ac felly dyma ni unwaith eto gyda’n podlediad dyddiol o Eisteddfod yr Urdd.

Ddoe fe fuon ni’n sgwrsio â chyflwynydd S4C Trystan Ellis-Morris am ei ddiwrnod ef ar faes yr ŵyl.

Ac yn ymuno â Iolo Cheung am sgwrs heddiw mae Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru, Betsan Powys, ac Ynyr Roberts o fand Brigyn.

Mae’r gwesteion yn trafod eu wythnos yn yr ŵyl ieuenctid hyd yn hyn, gydag Ynyr yn brysur ar stondin yr ysgolion Sul a Betsan yn cenhadu ar ran yr orsaf radio.

Yn ogystal â hynny mae’r ddau yn trafod lleoliad Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili eleni a’r amrywiaeth sydd i gael ar y maes, ac mae Ynyr yn cynnig cip tu ôl i’r llen ar brosiect diweddaraf Brigyn.

Gallwch wrando ar y sgwrs yma: