Wrth iddi agosau at ddiwedd wythnos arall yn yr Eisteddfod mae golwg360 nôl gydag un podlediad arall i chi o’r Maes.
Yn ymuno ag Owain Schiavone heddiw mae’r cyflwynydd radio Huw Stephens, a Sara Mai o Gaffi Maes B.
Mae’r tri’n trafod gwobr Albwm y Flwyddyn a gafodd ei gyflwyno i The Gentle Good am record Y Bardd Anfarwol, yn ogystal â’r arlwy cerddorol amrywiol sydd wedi bod ar y maes yr wythnos hon.
Maen nhw hefyd yn rhoi eu barn ar ddyluniad y maes, a pha elfennau ohoni sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth apelio at y rheiny sydd ddim yn Eisteddfodwyr traddodiadol.
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.
Mwynhewch y sgrifennu… a’r darllen!
Darllenwch ein canllawiau ar gyfrannu i’r adran Safbwynt