Llanbedr Pont Steffan
Cafwyd Eisteddfod ragorol yn Llanbedr Pont Steffan dros benwythnos gŵyl y banc yn ôl yr Ysgrifennydd Llên, Meinir Ebsworth.
“Roedd safon yr adran lenyddiaeth yn gref iawn gyda llwyddiant mawr yn y babell lên ar y nos Lun hefyd,” meddai.
Y Cadeirio
Mae’n arferiad gan yr Eisteddfod i osod saith englyn am saith ‘peth’ yn destun i gystadleuaeth y gadair ac eleni, dodrefn oedd y pwnc dewisol.
Philippa Gibson, tiwtor Cymraeg o Bontgarreg sy’n talyrna ar Dalwn y Beirdd Tanygroes a gafodd ei chadeirio, â safon yr adran lenyddiaeth yn rhagorol yn ôl y beirniad, y Prifardd Tudur Dylan Jones.
Dyma’r tro cyntaf i Philippa Gibson ennill y gadair yn Eisteddfod Llanbed a daw hynny ar ôl iddi ennill Cadair Goffa Pat Neill yn Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion fis Mawrth.
Roedd hi’n brofiad arbennig iddi gan mai ei chyn-athro barddol y Prifardd Idris Reynolds a oedd yn ei chyfarch o’r llwyfan.
“Roedd awyrgylch hyfryd i’r eisteddfod, fel bob blwyddyn”, meddai am Eisteddfod Teulu Pant y Fedwen.
“Roedd pawb yn garedig dros ben ac roeddwn i’n teimlo cynhesrwydd gan y gynulleidfa wrth i’r seremoni gael ei chynnal.”