Sion Richards fu yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ar ran Golwg360.

Cadwodd y glaw yn glir o fynyddoedd Crug Hywel a hynny’n caniatáu penwythnos heulog a hamddenol; gyda’r gerddoriaeth yn ganolbwynt i bopeth.

Dros bedwar diwrnod roedd sawl uchafbwynt; nos Iau yn plesio’r dorf efo set llawn hits, megis ‘Because the night’ a ‘Redondo Beach’ gan Patti Smith; perfformiad The Horrors nos Sadwrn, gyda’u roc shoegaze ôl-pyncaidd; roc califforniaidd-jangli yr Allah- Las a’r hynod flasus, peis cig oen a mintys!

Ar ôl gyrru lawr o’r gogledd p’nawn Iau, a cheisio gohirio’r blinder i wylio set Patti Smith, dechreuodd yr ŵyl yn iawn (i mi) dydd Gwener. Roedd y 10 llwyfan yn mynd – y rhain yn cynnwys y llwyfan sgwrsio, comedi a llwyfan y Greenman rising, lle ar gyfer talent newydd yr ŵyl.

Casi Wyn – hudol

Treuliais y rhan fwya’ o ddydd Gwener ger y GreenMan rising, lle cefais fwynhau set gan Casi Wyn. Doeddwn i ddim wedi gweld na chlywed ei set byw tan y prynhawn yna, a ches i ddim o fy siomi.

Roedd yn gyfle i Casi harwyddo ei albwm byr ‘1’ ar lwyfan ehangach gyda set hudol ar ei phiano, a’i band yn llenwi’r bylchau ac yn cryfhau sŵn a naws y gerddoriaeth. Mi wnes i wir fwynhau’r set, a dw i’n edrych ymlaen clywed mwy ganddi.

Wedyn, ar yr un llwyfan roedd set Dan Bettridge, trwbador o’r de gyda sŵn a thechneg gitâr ddim yn rhy annhebyg i gerddoriaeth Cat Stevens. Da.

Arhosais ger llwyfan y Greenman rising ar gyfer pop-electro Yr Ods, perfformiad da yn ffresh o lwyfannau’r Eisteddfod; hwb o egni yr oedd y gynulleidfa ei angen ar gyfer gweddill y noson.

Draw at y prif lwyfan ar gyfer gweddill y noson, gan wrando ar y prif berfformwyr, Kings of Convenience. Deuawd pop-gwerin o Norwy gyda set stripped-down, a phwyslais ar harmonïau a gitars acwstig. Hyfryd.

Dros y penwythnos roedd naws gwerinol ac acwstig yr ŵyl yn drawiadol, hyn yn atyniad i sawl teulu ymlacio a mwynhau yn yr haul. Roedd hefyd digon o weithgareddau i  blant a phobol ifanc, gyda tent creadigol, perfformiadau, hyfforddiant cerddorol a chwaraeon.

Dim digon o egni

Erbyn dydd Sadwrn daw rhai o’r prif artistiaid yr ŵyl ar y Mountain Stage (y prif lwyfan) – y  rhain yn cynnwys John Cale a Low.

Er yr enwau mawr, wnes i ddim mwynhau’r setiau’n llwyr gan deimlo bod y perfformiadau yn wan a di- egni.

Uchafbwynt y Sadwrn oedd darganfod y dalent ifanc, Adriya Triana. Cantores soul o Lundain gyda dylanwad jazz cyfoes yn amlwg yn sain ei band, wir yn dalent i’w ddarganfod a gwrando amdani.

Wnes i hefyd fwynhau prif grŵp y nos, Band of Horses. Grŵp a sain Americana -amgen, ond eto roeddwn yn teimlo fod gwell i ddod.

Cowbois yn ben

Yn fy marn i daeth perfformiad y penwythnos b’nawn Sul ar lwyfan y Walled Garden. Er yr holl artistiaid byd-eang a pherfformiwyd yn yr ŵyl, y set y cefais y mwyaf o fwynhad ohono oedd perfformiad Cowbois Rhos Botwnnog. Roedd ar brydiau yn hudolus, seicadelig  ac yn fwy na dim – yn gofiadwy!

Roedd Ffarwel I Langyfelach lon a Ceffylau ar d’rannau yn sefyll allan yn gerddorol, yn dechnegol.

Yn fy marn bersonol, roeddwn hefyd yn teimlo fod y band wedi perfformio yn well na’ rhai o’r prif enwau, gan gynnwys y Band of Horses.

Gobeithio bydd lle i Cowbois Rhos Botwnnog ar y prif lwyfan, ac ar amser mwy haeddiannol yn y blynyddoedd i ddod – dwi’n methu aros i’w perfformiad yng Ngŵyl Golwg, nos Wener, 6 Medi!

Yn ogystal â set y Cowbois dydd Sul, roedd cyfle i fwynhau Johnny Flynn & The Sunssex Wit, Marika Hackman a Melody’s Echo Chamber.

Gwers i’r Eisteddfod?

Dros y penwythnos cefais hefyd y cyfle i flasu seidr Cymraeg megis Gwynt y Ddraig a chwrw o fragdy Llŷn a Conwy, hyn yng ngŵyl gwrw’r Dyn Gwyrdd: lle’r oedd pwyslais ar hysbysebu a gwerthu cynnyrch Cymreig.

Gan feddwl am yr ŵyl gwrw, teimlais fod siawns wedi ei fethu wythnos yn ddiweddarach yn yr Eisteddfod, gyda’r holl Guinness a Carlsberg a gafodd ei yfed yn y bar gwyrdd; er bod bar bach yn gwerthu cwrw da, Cymreig, a oes lle ar gyfer pabell cynnyrch, bwydydd a diod Cymreig yn y brifwyl? Ardal ar y maes i hysbysebu a gwerthu cynnyrch lleol gan ailgylchu arian i’r economi lleol? Dim ond syniad.

Bendigedig

Ar y cyfan roedd y Dyn Gwyrdd yn ŵyl fendigedig, gyda’r haul, y gerddoriaeth a’r cwmni yn helpu’r mwynhad ar naws hamddenol. Roedd hefyd yn gyfle i weld rhai o brif dalentau Cymraeg ar lwyfan rhyngwladol, a ches i ddim fy siomi gan y Cymry.

Roedd yn galonogol fod cynnyrch cerddorol drwy’r iaith Gymraeg gystal, os nad gwell, na’r artistiaid byd enwog.

Efallai dylen ni, y Cymry fod yn fwy cefnogol a chlodfori’r artistiaid cerddorol cyfoes drwy’r flwyddyn; nid mewn un gìg mawreddog ar faes y Brif wyl.

Da iawn Dyn Gwyrdd!