Mae ffigwr amlwg yn y byd cerdd wedi awgrymu bod rhai corau’n dechrau talu i gantorion ymuno â nhw cyn cystadlaethau’r Eisteddfod.

Yn ôl y beirniad cerdd sydd am aros yn ddienw, mae un canwr gwrywaidd wedi dweud iddo gael cynnig arian am ganu, er bod hynny’n groes i reolau’r Eisteddfod.

Roedd pwnc tebyg wedi ei godi gan yr arweinydd corau, Menai Williams, ar raglen eisteddfod y BBC neithiwr, pan awgrymodd fod cantorion yn ‘hel corau’ gan ganu gyda mwy nag un.

Yn awr, mae’r honiad yn mynd ymhellach.

 

‘Ennill ar bob cyfri’

Yn ôl y beirniad dienw, y peryg yw fod rhai corau’n ceisio ennill ar bob cyfri a bod hynny’n golygu recriwtio cantorion yn arbennig ar gyfer cystadlaethau.

“R’ych chi’n eu gweld nhw’n canu mewn cystadleuaeth,” meddai, “ond d’ych chi ddim yn eu gweld nhw wedyn.”

Ar y BBC, roedd Menai Williams wedi awgrymu fod peryg o golli’r elfen gymunedol mewn corau a fod angen i’r Eisteddfod ystyried hynny.

Er hynny, roedd hi’n canmol enillwyr y brif gystadleuaeth ddoe, Côr y Wiber, am fod yn gôr ardal a oedd wedi codi o awydd criw o bobol ifanc i ganu gyda’i gilydd.