Enillydd Medal y Dysgwyr eleni ydi Megan Jones, disgybl ysgol 17 oed yn Ysgol Uwchradd Caerdydd.
Mae Megan yn ferch i fam o Iwerddon ac i dad o Ferthyr Tudful, ac mae’n astudio Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg ar gyfer ei harholiadau Lefel A. Wedyn, mae’n gobeithio mynd i Brifysgol Rhydychen i astudio Sbaeneg a Ffrangeg.
“Dw i’n dwlu ar ddarllen llyfrau gwahanol,” meddai Megan, “llyfrau clasurol a chyfoes, llyfrau doniol a chyffrous. Dw i’n hoffi cadw’n heini hefyd, yn enwedig rhedeg a nofio gyda’m ffrindiau.”
Ar gyfer cystadleuaeth y Fedal eleni, fe gyfansoddodd weithiau hanesyddol – cerdd am gwymp y tywysog Llywelyn, storio am fab anghyfreithlon Llywelyn ein Llyw Olaf, ynghyd a llythyr dychmygol at Gwilym Brewys gan ei wraig cyn iddo gael ei grogi.