Mae Swyddog Cynaladwyaeth wedi’i gyflogi gan Wersyll Llangrannog am y tro cynta’ erioed.

Mae Owain Jones wedi’i benodi gyda’r cyfrifoldeb o greu rhaglen o weithgareddau amgylcheddol, ynghyd a chodi ymwybyddiaeth ymysg plant a phobol ifanc o fyw’n gynaladwy.

Mae’r penodiad yn rhan o brosiect gwerth £65,189 ac mae wedi ei noddi gan Cyfoeth Cymru (£15,000), a Chronfa Twf Mentrau Cymdeithasol Ceredigion (29,189).

Fe fydd Owain yn cydweithio gyda mudiadau Cadw Cymru’n Daclus, Coed Cymru a Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion.