Mae 900 o blant yn aros yng ngwersyll yr Urdd, Llangrannog, dros wythnnos yr Eisteddfod yn Boncath.
Yn hytrach na gorfod chwilio am lety menw gwestai neu hosteli, mae nhw’n cael aros yn y gwersyll am lai na £30 y pen y noson.
Yn yr un ffordd ag y mae Gwersyll yr Urdd, Caerdydd, ar gael ar gyfer penwythnosau rygbi a phan mae’r eisteddfod yn dychwelyd i’r brifddinas bob pedair blynedd, mae nifer o adrdannau, ysgolion ac aelwydydd eleni wedi manteisio ar y prisiau is yn Llangrannog eleni – yn enwedig gan fod gwestai mawr yn brin yng ngogledd Sir Benfro.
Mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi bod yn annog pawb sy’n ymwneud a’r brifwyl ieuenctid eleni i aros o fewn y sir, yn hytrach na chrwydro i dref boblogaidd Aberteifi. Mae staff yr Urdd a nifer o bwysigion, yn aros yn y Fishguard Bay Hotel yn Abergwaun.