Mae 94% o’r plant sy’n treulio amser yng ngwersyll yr Urdd, Llangrannog, yn teimlo’n fwy hyderus i siarad Cymraeg ar ol bod yno.  

Dyna oedd neges y mudiad ieuenctid heddiw, wrth gyhoeddi prosiect ar y cyd ag S4C a allai wneud gwahaniaeth i’r ffordd y mae plant ifanc yn teimlo tuag at yr iaith.

Bwriad penwythnosau Cyw ydi denu rheini a phlant i Langrannog, er mwyn gallu treulio amser yng nghwmni cymeriadau rhaglenni plant.

“Mae’n bwysig i blant gael cyfleoedd i ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth,” meddai’r Urdd.