Oherwydd tywydd gwlyb a garw ddoe, mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd wedi gorfod cau eu maes parcio cynta’ ar dir fferm Cilwendeg ger Boncath.
Mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Sion, wedi cadarnhau mai meysydd parcio 2, 3 a 4 sy’n cael eu defnyddio heddiw, a hynny ar ol cau cae rhif 1 oherwydd mwd.
“Mae’r tywydd yn argolio’n dda am weddill yr wythnos, felly mae’r Urdd yn gobeithio ail-agor maes parcio rhif 1 yn hwyrach yn yr wythnos,” meddai Aled Sion.
Er bod 2,000 yn llai o geir wedi cyrraedd Boncath ddydd Llun, o gymharu a’r nifer ddaeth i Glynllifon y llynedd, mae’r Urdd yn gobeithio y bydd y niferoedd yn cynyddu wrth i’r wythnos fynd rhagddi.