Richard & Adam
Mae dau frawd o Dreffynnon yn y gogledd wedi cyrraedd rownd derfynol y rhaglen deledu Britain’s Got Talent.

Cafodd Richard ac Adam eu dewis ynghyd a’r gantores 11 oed, Arisxandra Libantio, allan o naw o gystadleuwyr yn dilyn pleidlais ar y sioe dalent ar ITV neithiwr.

Mae 45 o gystadleuwyr yn cystadlu mewn rowndiau cynderfynol wythnos yma.

Daeth Richard ac Adam, sy’n 19 a 22 mlwydd oed, i’r brig yn y bleidlais gyhoeddus ar ôl iddyn nhw ganu eu fersiwn nhw o ‘Somewhere’ o sioe gerdd y West Side Story.