Huw Antur o wersyll Glan-llyn
Mae prosiect newydd sy’n cael ei redeg gan wersyll Glan-llyn yn golygu nad oes raid i bobol ifanc fynd i’r Gwersyll ger y Bala er mwyn cael profiad o waith awyr agored.
Ym mis Ebrill eleni y lansiwyd gwasanaeth awyr agored newydd sy’n cynnig profiadau bobol ifanc, gyda dau swyddog yn gweithio led-led siroedd Gwynedd, Conwy, Môn a Dinbych.
Maent yn darparu cwrs ‘Biw ar Fiw’, sydd â’r nod o gyflwyno maes awyr agored fel gyrfa bosibl trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed.
Maen nhw hefyd yn cyflwyno cyrsiau gwobrau Dug Caeredin a John Muir trwy gyfwng y Gymraeg, sy’n cynnwys amryw o weithgareddau awyr agored o gerdded glannau afonydd, i dringo, i feicio mynnydd.