Mae cynhyrchydd ffilm sydd newydd sefydlu ei gwmni ei hun, yn dweud “Diolch” i fudiad yr Urdd am roi profiad iddo yn y maes hwnnw.
Roedd Osian Williams yn siarad yn y gynhadledd i’r wasg ar faes Cilwendeg heddiw, ar ol sefydlu cwmni SSP (Skint Students Productions). Mae SSP yn gymuned o wneuthurwyr ffilm a ffotograffwyr.
“Yng ngwersyll yr Urdd, Caerdydd, y dechreuodd fy ngyrfa yn y byd ffilm,” meddai Osian. “Ro’n i’n un o aelodau cynta’r clwb digidol yng Nghaerdydd yn 2008, ac yna, fe es i i Brifysgol Bangor i astudio ffilm a’r cyfrngau.”
Erbyn hyn, mae Osian yn gweithio gyda phrosiect haf newydd Gwersyll yr Urdd, Caerdydd, lle mae’n addasu sgriptiau y mae aelodau wedi’u creu yn ffilmiau go iawn.