Nid wythnos o wyliau ydi wythnos Eisteddfod yr Urdd, ond “wythnos o berthyn”, yn ol Llywydd y Dydd heddiw, yr actores Llinor ap Gwynedd.
Roedd yr actores, sy’n chwarae rhan Gwyneth yn yr opera sebon, Pobol y Cwm, yn naw oed pan symudodd i’r ardal o Ddyffryn Aman.
Mae’n dweud fod ganddi ddyled fawr i’r Urdd, gan ei bod yn gystadleuydd brwd iawn gydag Aelwyd Crymych.
“Mae’r Urdd wedi rhoi hyder i mi,” meddai Llinor ap Gwynedd, “ac rwy’n falch iawn fy mod yn perthyn i deulu’r Urdd.”
Ond yn fwy na dim, meddai, mae ganddi ddyled i’r Urdd oherwydd mai trwy’r mudiad y cyfarfu ei rhieni.