Fe wnaeth 7,000 yn llai o bobl ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro ddoe o’i gymharu â’r un diwrnod y llynedd.

Bu 16,689 o ymwelwyr ar y maes ddoe o gymharu â 23,913 ddaeth ar ddydd Llun cyntaf Eisteddfod Eryri.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod mai’r tywydd oedd ar fai am y ffigwr siomedig wrth i wynt a glaw trwm daro’r maes.

Yn ôl y rhagolygon, mae disgwyl i weddill yr wythnos aros yn sych.