Dros gyfnod Eisteddfod yr Urdd 2013 bydd Golwg360 yn gweithio mewn partneriaeth gyda disgyblion o Ysgol Preseli i gynhyrchu cynnwys amrywiol o’r maes a’r ardal leol.
Wrth arwain at wythnos yr Eisteddfod mae criw Preseli360wedi bod yn creu clipiau fideo byr gyda phobl a phethau o’r ardal, wrth iddynt edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod.
Dyma gyflwyniad i un o gwmniau mwyaf llwyddiannus yr ardal Hiut Denim, sy’n edrych ymlaen at weld yr Eisteddfod yn dod i Foncath.