Mae’r BBC wedi sgrapio cynllun uchelgeisiol i greu system cynhyrchu ac archif ddigidol ar ôl cyfaddef bod bron i £100 miliwn wedi ei wastraffu arno.
Mae prif swyddog technoleg y gorfforaeth, John Linwood, sy’n ennill £280,000 y flwyddyn, wedi ei wahardd o’i waith ar gyflog llawn i aros am ganlyniad ymchwiliad y BBC i’r cynllun.
Mae’r Fenter Cyfryngau Digidol (DMI), oedd fod i greu system gynhyrchu oedd yn gysylltiedig ag archif ddarlledu helaeth y gorfforaeth, wedi costio £98 miliwn ers ei sefydlu yn 2008.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall: “Mae prosiect DMI wedi gwastraffu llawer iawn o arian y cyhoedd. Dwi ddim yn gweld unrhyw reswm dros ganiatáu i hynny barhau a dyna pam dwi wedi ei gau.
“Mae gen i bryderon difrifol am sut cafodd y prosiect yma ei reoli ac mae adolygiad wedi ei sefydlu i ganfod beth aeth o’i le a pha wersi y gellir eu dysgu. “
Risg o fethiant
“Mae prosiectau technoleg uchelgeisiol fel hyn wastad yn cario risg o fethu – nid yw’n golygu na ddylen ni geisio ond mae gennym gyfrifoldeb i’w cadw dan lawer mwy o reolaeth nag y gwnaethom ni yma.”
Rhoddwyd y cytundeb i ddatblygu’r prosiect i Siemens i ddechrau ond cafodd hwnnw ei ganslo a’i gymryd yn ôl o fewn y BBC oherwydd nad oedd wedi ei gwblhau ar amser.
Gwastraff
Dywedodd Matthew Sinclair, prif weithredwr Cynghrair y Trethdalwyr: “Mae’r BBC wedi gwastraffu swm eithriadol o arian talwyr ffi’r drwydded.
“Mae’r cynllun DMI wedi cael ei foddi gan broblemau o’r cychwyn tra’i bod hi’n ymddangos bod gwerth am arian heb boeni’r rhai sy’n gyfrifol.
“Mae’n ddigon hawdd dweud y bydd camau yn cael eu cymryd i sicrhau na all hyn ddigwydd eto ond nid yw hynny’n esgusodi neu’n esbonio sut mae’r gwastraff anhygoel o arian yma wedi digwydd yn y lle cyntaf.”