Mae Gŵyl Caeredin yn fyd gwahanol.

Wrth ysgrifennu’r golofn hon, dw i wedi bod yng Nghaeredin ers tair wythnos. Dw i wedi dod i gyflwyno fy sioe newydd. ‘Strongly Agree’ fydd enw’r sioe ar daith, ond yma yn yr ŵyl mae’n help i roi enw llai cynnil, felly ei henw yw ‘Free Standup Will Blow Your Mind’. Mae hyn oherwydd ei bod am ddim i weld y sioe, gyda chyfle i dalu cyfraniad i mi ar y diwedd.

Diben y teitl yw tynnu sylw. Cyn dod, trefnais 24 perfformiad o’r sioe – ac ers hynny, dw i wedi ychwanegu un perfformiad arall ohoni. Mewn gŵyl sy’n cynnwys miloedd o berfformiadau o gannoedd o sioeau, sut mae denu cynulleidfa i wylio fy sioe i o gwbwl – heb sôn am eu denu bob dydd, gan gynnwys y dyddiau tawel ganol wythnos?

Felly, yn ogystal â’r sioe ei hun, dw i’n dosbarthu hysbyslenni i hysbysebu’r sioe. Mae gen i 10,000 o daflenni wedi’u hargraffu, yn cynnwys manylion y sioe, lluniau newydd ohona’i wedi’u tynnu’n arbennig ar gyfer y sioe, a dyfyniadau hyfryd gan gynulleidfaoedd sydd wedi gweld fy sioeau comedi yn y gorffenol.

Am awr y dydd, dw i’n sefyll ar strydoedd y ddinas yn cynnig yr hysbyslenni i unrhyw un sy’n fodlon eu cymryd. Ar ben hynny, dw i’n cyflogi tri o fyfyrwyr Prifysgol Caeredin i wneud yr un peth (diolch o galon i Kaspar, Gemima a Lucy!).

Ydy hynny’n ddigon o sylw? Nac ydy. Mae 80 o docynnau ar gael ar gyfer pob perfformiad. Felly mi ydw i hefyd yn westai ar nifer o sioeau eraill yn ystod y mis.

Dw i’n aml yn perfformio yn ‘This Is Your Trial’, lle mae digrifwyr yn chwarae barnwr a dau dwrnai, er mwyn dwyn achosion yn erbyn aelodau’r gynulleidfa. Ar hyd y mis, rydyn ni wedi clywed am bob math o ymddygiad annerbyniol gan ffrindiau, gan gariadon, gan rieni – a’u plant!

Dw i’n aml yn cyflwyno ‘2 Truths 1 Lie’, lle mae digrifwyr yn gwneud honiadau, ac mae’n rhaid i’r gynulleidfa eu cwestiynu i ddarganfod pwy sy’n dweud celwydd: Wnaeth athrawes Blwyddyn 4 ddangos y ffilm Final Destination i ddosbarth Cerys Bradley? A gafodd Marcus Ryan ffling â Britney Spears yn 2008? A oedd cymaint o hiraeth am ei gath ar Richard Stott nes iddo… wel, efallai bod y stori honno’n rhy drist i golofn ysgafn fel hon…

Dw i wedi bod yn perfformio yn ‘Comedy For The Curious’, sioe sy’n cyfuno comedi a gwyddoniaeth. Bydd digrifwyr yn cyflwyno deng munud o gomedi ar ryw bwnc arbennig – penderfyniadau, personoliaeth, cathod a chŵn, ofn – ac wedyn bydd y digrifwr Americanaidd Robyn Perkins yn dilyn y perfformiad gydag eglurhad gwyddonol o’r testun. Ar ôl hynny, daw’r digrifwyr yn ôl am sgwrs a gêm.

Dw i wedi bod yn perfformio yn ACMS – “The Alternative Comedy Memorial Society” – un o’r sioeau comedi mwyaf rhyfedd yn yr ŵyl, lle caiff digrifwyr eu hannog i geisio rhywbeth arbrofol. Rhywbeth allai fethu. Dim jôcs dibynadwy, diogel. Y tro cyntaf eleni, gwnes i restru pob celwydd oedd yn fy mhum sioe gyntaf – heb gyd-destun. Yr ail dro, mi wnes i ddarllen straeon byrion mewn arddull llyfrau plant. Llynedd, cyflwynais berfformiad yn Gymraeg – a dim ond diwedd pob jôc oedd yn Saesneg.

Dw i wedi bod yn perfformio yn ‘Sasha Ellen’s Character Building Experience’, lle mae digrifwyr yn chwarae gêm Dungeons & Dragons yn fyw; creu cymeriad a mynd ar antur, gan wneud y penderfyniadau twpaf posib. A fydd modd ennill y dydd pan fo pob chwaraewr yn mynnu gwneud y peth mwyaf doniol yn hytrach na’r peth mwyaf defnyddiol?

Ac mae hyn heb sôn am y sioeau mwy cyffredin, lle bydda i’n perfformio rhywfaint o gomedi er mwyn rhoi blas o fy math i o standyp.

Tynnu sylw

Weithiau, rwy’n perfformio chwe sioe mewn diwrnod. Dw i bron byth yn perfformio llai na thair. Ac oll er mwyn tynnu sylw. Y gobaith yw y bydd pobol yn fy ngweld yn y sioeau eraill, ac yn dod i wylio fy sioe unigol; y frwydr i gipio sylw cynulleidfaoedd yn erbyn llwyth o gystadleuaeth.

Felly mae perfformwyr yr ŵyl yn dal i gwyno am Georgie Grier, yr actores gafodd sylw mawr yn y cyfryngau. Dim ond un person ddaeth i wylio’i pherfformiad cyntaf o’i sioe, ac yna postiodd Grier lun ohoni ei hun yn llefain ar gyfrwng cymdeithasol. Cafodd y llun a’r stori sylw mawr gan filiynau – ac yna prynwyd pob tocyn i bob perfformiad oedd yn weddill gan Grier am y mis cyfan.

Llawer o genfigen ymhlith perfformwyr eraill! Oherwydd… digwyddodd y perfformiad cyn i’r ŵyl ddechrau’n swyddogol! Mae niferoedd isel yn beth hollol arferol yn y perfformiadau “rhagflas” hyn! Ar yr un diwrnod, pum person ddaeth i weld fy sioe i. Doedd neb ond perfformwyr wedi cyrraedd i fwynhau’r ŵyl, felly dim rhyfedd. Mae llawer iawn o bobol yn gorfod canslo’r sioeau hyn pan ddaw neb o gwbwl!

Ond tynnu sylw yw’r peth i wneud, a llwyddodd Grier yn well na neb. Sylw holl bapurau newydd y wlad!

Ac mae hynny’n werth ei gofio weithiau.

Canslo’n denu mwy o sylw

Wythnos diwethaf, cafodd y sioe ‘Comedy Unleashed’ yn Leith ei chanslo ar ôl i berchnogion lleoliad y sioe ddod i wybod y byddai Graham Linehan yn rhan o’r sioe. Doedden nhw ddim yn hapus i roi lle i Linehan, oherwydd ei ymgyrch eithafol yn erbyn pobol draws.

Cafodd hyn sylw mawr yn y cyfryngau hefyd, gyda llawer yn dod i rannu’r farn ei bod yn bwysig dangos parch at safbwynt Linehan – hyd yn oed nad yw ei safbwynt yn dangos parch o gwbwl.

Ac wrth gwrs, roedd trefnwyr ‘Comedy Unleashed’ – y sioe gomedi sy’n dathlu safbwyntiau eithafol, ac yn enwedig safbwyntiau adweithiol ac asgell-dde – yn hapus i siarad ag unrhyw newyddiadurwyr am eu dicter bod y fath beth wedi digwydd. Canslo sioe! Am beth dychrynllyd.

Hawdd iawn yw peidio sylwi bod hon yn fuddugoliaeth aruthrol i ‘Comedy Unleashed’, ac i Graham Linehan. Pe bai’r digwyddiad wedi mynd yn ei flaen, ar y mwyaf byddai Leith Arches (yn ôl eu gwefan) yn gallu cynnig cyfle i 180 o bobol wylio’r sioe.

Yn lle hynny, mae miliynau bellach wedi clywed hanes y dyn trawsffobig druan a fethodd gyfle i berfformio yng nghalon yr ŵyl. Wel… os gellir disgrifio ystafell dwy filltir a hanner o’r brif ŵyl fel hynny.

Yr unig sylw rwy’n ei geisio yma yw’r math o sylw fydd yn annog pobol i ddod i weld fy sioe. Ond yma, fel ym mhob man arall, bydd pobol yn ceisio’r un math o sylw i annog pobol i ddod yn rhan o ymgyrch wleidyddol. Er da neu ddrwg.

Y peth rhyfeddaf yw cyn lleied o bobol yn yr ŵyl sy’n poeni am hanes ‘Comedy Unleashed’ a Graham Linehan yn y lle cyntaf. Does dim llawer o demtasiwn i feddwl am rywbeth fel’na, pan fo cymaint o waith gwych i’w weld gan bob mathau o artistiaid ardderchog. Gan gynnwys digonedd o artistiaid traws.

Tu hwnt i’r we, mae bywyd yn mynd yn ei flaen. Gyda mwyfwy o ymgyrchu yn erbyn hawliau pobol LHDT+, yma mae dathliad o hunaniaethau gwahanol sy’n dangos mor wych yw’r byd drwy wneud lle i fathau gwahanol o bobol.

Fy ngobaith yw gweld hyn yn digwydd ar draws y wlad – ar draws y byd. Lle i artistiaid, i berfformwyr, i ddigrifwyr drafod eu profiadau a gwybod fod y byd yn barod i wrando, i ddysgu, i fwynhau a dathlu. Ond mae ganddon ni waith i’w wneud i greu byd o’r fath. Am y tro, mae Gŵyl Caeredin yn fyd gwahanol.