Daeth criw o athrawon a phedwar o blant o un o drefi slym Nairobi, Cenia i berfformio cân Gymraeg a Swahili ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd ddydd Mercher.

Roedden nhw wedi bod yng Nghymru ers pythefnos, yn dilyn y gyfres deledu O Nefyn i Nairobi. Mae’r criw yn dychwelyd i Nairobi ddydd Iau.