Mae côr o fechgyn ifanc o ardal Meirionydd newydd ddychwelyd adre ar ôl teithio i Ffair Wyliau rhyngwladol Vakantiebeurs yn ninas Utrecht fel rhan o ymgyrch farchnata er mwyn codi ymwybyddiaeth o Gymru, y diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg yn yr Iseldiroedd.

Cafodd y côr wahoddiad i fynd i Utrecht gan adran dwristiaeth Cyngor Gwynedd i hyrwyddo ‘Ffordd Cymru’, sef cyfres o dri llwybr teithio sydd yn ymestyn ar hyd a lled y wlad ac yn cynrychioli’r gorau o Gymru.

  • Ffordd y Gogledd
  • Ffordd Cambria
  • Ffordd yr Arfordir

Yn ôl Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi a Chymuned, mae’r fideo o Gôr Eryrod Meirion sydd eisoes wedi ei wylio 80,000 o weithiau ar dudalen Facebook Eryri Mynyddoedd a Mor yn “ffordd syml, gyfoes a deniadol” o farchnata Cymru ar lwyfan ryngwladol.

“Nod yr ymgyrch farchnata hwn yw codi ymwybyddiaeth o Gymru yn y marchnadoedd rhyngwladol a thynnu sylw at yr amrywiaeth o atyniadau y gellir eu mwynhau mewn lleoliadau megis Gwynedd a ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn,” meddai.

 “Rhoi Cymru ar y map”

Dywedodd Branwen Williams, arweinydd y côr wrth Golwg360 ei bod hi’n bleser cael mynd â Eryrod Meirion i Utrecht a pherfformio yn un o ganolfannau siopa mwyaf yr Iseldiroedd, a “rhoi blas i bobl ledled y byd o’n diwylliant a’n hiaith”.

“Roedd gweld pobl yn gwirioni ar y canu ac eisiau dysgu mwy am y Gymraeg yn brofiad a oedd yn codi calon rhywun.

“Mae gweld yr ymateb i’r fideo ‘flash mob’ wedi bod yn rhyfeddol. Braint o’r mwyaf oedd cael rhoi Cymru ar y map unwaith eto.”

 

https://www.youtube.com/watch?v=_YDJ77sb5D