Mae gŵyl gerddorol yn Sir Ddinbych ar fin dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu.
Fe fydd Gŵyl Rhuthun yn cychwyn ddydd Sadwrn (Mehefin 22) ac yn parhau tan ddydd Sul, Mehefin 30 gyda chyfres o ddigwyddiadau yn cynnwys drama Shakespearaidd, gweithdai celf, cyfres o gyngherddau, stomp farddol, noson caws a gwin, noson mic agored a llawer o ddigwyddiadau eraill.
Yn ôl aelodau y pwyllgor trefnu, gwraidd yr ŵyl oedd cyswllt y dref gyda eu gefeilldref Brieg yn Llydaw, pan benderfynwyd cael gŵyl debyg i’r un flynyddol yn Brieg ar sgwâr y dref yn Rhuthun.
Uchafbwynt yr Ŵyl fydd y digwyddiad Top Dre, wythnos i ddydd Sadwrn (Mehefin 29), gydag enwau amlwg fel Bryn Fôn a’r Band a Candelas ymhlith y perfformwyr, ynghyd â bandiau fel Bwncath, Skariad a Band Chwech, ac artistiaid lleol hefyd fel Côr y Porthmyn, Côr Ysgol Pen Barras a Band Ieuenctid Sir Ddinbych.
Cyngerdd cofio Eirwyn
Un arall o ddigwyddiadau’r Ŵyl yw cyngerdd arbennig nos Lun, Mehefin 24, i gofio am un o ffyddloniaid y dref. Yn dilyn marwolaeth Eirwyn Evans, mae cyngerdd wedi cael ei drefnu i gofio am ei fywyd a’i waith gwirfoddol yn cefnogi celfyddyd a diwylliant yn ardal Rhuthun.
Roedd Eirwyn Evans yn weithgar gyda Theatr John Ambrose, Theatr Ieuenctid Dyffryn Clwyd a Gwyl Rhuthun, gyda’i waith a’i amser wedi rhoi cyfleoedd i filoedd, yn enwedig plant a ieuenctid yr ardal, feithrin, datblygu ac arddangos eu doniau.
Ymhlith yr artistiaid fydd Côr Cytgan Clwyd, Meibion Marchan, Cwmni Drama Rhuthun, Adran Gerdd Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Pen Barras, gydag elw y cyngerdd yn mynd tuag at Apêl Rhuthun at Eisteddfod yr Urdd 2020.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn am noson i’w chofio mewn lleoliad yr oedd Eirwyn yn allweddol yn ei ddatblygu a’i wella, ac amryw o grwpiau lleol yr oedd wedi eu helpu,” meddai Iwan Vaughan Evans, Cadeirydd Pwyllgor Apel Rhuthun.