Mae gwreiddiau’r canu Plygain wedi’u naddu’n ddwfn yng ngwaith tair chwaer o ardal Aberystwyth.

Y Nadolig hwn mi fydd grŵp Sorela yn perfformio medli o ganeuon Nadolig gan gyfuno’r traddodiadol a’r cyfoes.

“Ni wedi ei hysgrifennu hi [y medli] gyda’n gilydd,” meddai’r gyflwynwraig Lisa Angharad gan gyfeirio at ei dwy chwaer, Gwenno a Mari, sy’n rhan o’r grŵp.

“Ni’n dechrau gyda charol blygain Daeth Nadolig a wedyn symud ymlaen at bethau mwy eclectig – pethau sy’n mynd i ddod ag atgofion lu a nostalgia o pan o’n i’n iau,” meddai’r gantores.

Mae’r dair yn cydnabod dylanwad eu mam, Linda Griffiths o’r grŵp Plethyn, wnaeth ddwyn y traddodiad o ganu harmoni yn null y Plygain i brif ffrwd canu gwerin cyfoes Cymraeg.

“Ni’n grŵp acapela, felly mae’r Plygain yn hollol hanfodol i sut ni’n canu,” meddai Lisa Angharad.