Rhaglen Mrs Brown’s Boys lwyddodd i ddenu’r nifer mwyaf o wylwyr ar ddydd Nadolig eleni – heblaw am Y Frenhines – gyda 6.8 miliwn o setiau yn tiwnio i mewn i’r gomedi.

Fe lwyddodd araith y Frenhines i ddenu cyfanswm o 7.8 miliwn o wylwyr ar sianeli BBC1 (5.9 miliwn), ITV ac ITV+1 (1.9 miliwn), ac fe gafodd ei darlledu ar Sky hefyd.

Ond y BBC oedd prif enillwyr y dydd, yn llwyddo i ddenu 6.5 miliwn o wylwyr ar gyfer Strictly Come Dancing Christmas Special, ynghyd â 6.3 miliwn yr un i opera sebon EastEnders a’r ddrama, Call The Midwife, ynghyd â 5.7 miliwn arall i Doctor Who.

Yn seithfed ar restr y rhaglenni mwyaf poblogaidd ddoe yr oedd Coronation Street (ITV) gyda 5.1 miliwn o wylwyr.