Mae dau arbenigwr ar y canu Plygain yn ffyddiog am ddyfodol y traddodiad yng Nghymru wrth i’r arfer gynyddu mewn rhannau newydd o Gymru, gan gynnwys Llanbed.
“Yn sicr, mae yna fwy a mwy o ddiddordeb ar hyd a lled Cymru yn y canu Plygain,” meddai Arfon Gwilym.
“Yn ôl ar ddechrau’r 1970au doedd neb y tu allan i’r canolbarth yn ymwybodol o’r traddodiad mewn gwirionedd,” meddai gan nodi mai Sir Drefaldwyn yw “cadarnle’r traddodiad” o hyd.
Ond erbyn hyn mae gwasanaethau Plygain yn ailgodi ym mhob cwr o Gymru.
‘Seiliau cadarn’
Un arall sy’n arbenigo ar y traddodiad yw Rhiannon Ifans o ardal Aberystwyth sy’n canu deuawd â Trefor Puw o Drefenter, Ceredigion.
Mae’n esbonio fod pobol yn canu mewn partïon teuluol gan amlaf gyda phob parti’n canu eu detholiad eu hunain o garolau.
“Dydy’r un garol ddim yn cael ei chanu fwy nag unwaith mewn gwasanaeth plygain,” meddai gan esbonio y bydd tua deuddeg parti yn canu mewn dau gylch yn ystod gwasanaeth arferol.
“Flynyddoedd mawr yn ôl roedd y Plygain yn rhan o wasanaethau’r eglwys drwy Gymru ond mi gafodd y traddodiad ei gadw yn Sir Drefaldwyn,” meddai.
Mae’n cydnabod fod twf wedi bod yn ddiweddar yn nifer y gwasanaethau gan nodi eu bod nhw’n “ailsefydlu ar seiliau cadarn.”
Dyma glip sain o Arfon Gwilym yn canu’r garol ‘Teg Wawriodd’ yn rhan o driawd gyda’i wraig Sioned Webb a Stephen Rees ym Mhlygain Rhos y Gad, Llanfair Pwyllgwyngyll ym Môn.