Gall dysgu offeryn cerddorol ohirio agweddau o heneiddio a gwella gallu’r genhedlaeth hŷn i glywed, meddai ymchwil heddiw.

Mae blynyddoedd o chwarae offeryn cerddorol yn “tiwnio’r” system nerfol, meddai gwyddonwyr mewn ymchwil newydd.

O ganlyniad, mae  cof clybodol person – sef y gallu i gofio beth sydd wedi cael ei glywed ac i wahaniaethu synau – yn gwella.

“Mae hyfforddiant cerddorol gydol oes yn ymddangos i roi mantais mewn o leiaf ddau ran bwysig o bobl sy’n sy’n dirywio gydag oedran – y cof a’r gallu i glywed iaith mewn sŵn,” meddai’r Athro Nina Kraus, cyfarwyddwr Labordy Niwrowyddoniaeth Clywedol Prifysgol Northwestern, Illinois yn yr Unol Daleithiau. 

Eisoes, mae ymchwil blaenorol yn awgrymu bod  cerddoriaeth  yn cynnig manteision i bobl ifanc yn yr ystafell ddosbarth.

Yr ymchwil

Yn yr ymchwil hwn, roedd gwyddonwyr wedi cynnal profion cof ac adnabod lleferydd  ar bobl rhwng 45 a 65 oed – 18 ohonyn nhw’n gerddorion a 19 yn  bobl nad oedd ddim yn chwarae offeryn.

Roedd yr holl gerddorion wedi dechrau chwarae offeryn yn naw oed neu ynghynt ac wedi parhau i chwarae drwy’i bywydau.

Yn y profion, fe wnaeth y cerddorion berfformio’n well na’r grŵp oedd heb hyfforddiant cerddorol mewn cof clywedol a thasgau phrosesu sain. Roedden nhw hefyd yn well am ganfod iaith yn erbyn sŵn cefndirol. Roedd y ddau grŵp yn dangos gallu cyfartal ym mhrofion cof gweledol.