Colorama - un o'r bandiau Cymreig fydd yn perfformio yn Wakestock eleni
Fe fydd nifer o artistiaid gorau’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn cael cyfle i berfformio ar lwyfan Wakestock eleni.
Mae’r rhan fwyaf o enwau mawr yr ŵyl wedi eu henwi eisoes, ond nawr mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi rhestr o artistiaid Cymreig fydd yn rhan o’r arlwy eleni.
Ar frig y rhestr mae’r DJ Radio 1 a Radio Cymru poblogaidd, Huw Stephens.
Enwau cyfarwydd
Rhai o’r enwau eraill fydd yn gyfarwydd iawn i ffans y sin Gymraeg ydy’r Sibrydion a Masters in France.
Fe fydd y rapiwr o Amlwch, Mr Phormula, sef cyn aelod y Genod Droog Ed Holden, hefyd yn cael cyfle i berfformio ar lwyfan gŵyl wakefyrddio mwyaf Ewrop.
Yr enwau Cymreig eraill sydd wedi eu henwi ydy Colorama, Bare Left a Poket Trez.
Mae’r rhan fwyaf o’r artistiaid Cymreig yn gyfarwydd â pherfformio ar lwyfannau’r prif wyliau, ond dyma fydd y gig mwyaf hyd yn hyn i’r grŵp ifanc o Gaerdydd, Bare Left.
Mae gŵyl Wakestock yn cael ei chynnal ger Abersoch ar 8, 9 a 10 Gorffennaf. Ymhlith y prif enwau sydd yno eleni mae Biffy Clyro, The Wombats ac Ellie Goulding.