Mae’r albwm ‘Galargan’ gan The Gentle Good wedi’i gynnwys ymhlith deg albwm gwerin gorau’r Guardian.

Mae’r albwm gan fand Gareth Bonello wedi’i ysbrydoli gan ganeuon y cafodd hyd iddyn nhw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn ystod cyfnodau clo’r pandemig Covid-19.

Ei ddehongliad ei hun o hen ganeuon traddodiadol gan Gymry sydd ar yr albwm, sy’n gasgliad o ganeuon gafodd ei ddewis yn Albwm Gwerin y Mis gan The Guardian.

Yn ystod y pandemig, pan oedd colled, anobaith, ofn a dicter yn teimlo’n fwy real nag erioed, roedd yr hen ganeuon hyn yn cynnig eu hunain, meddai’r cerddor.

Ond mae gobaith hefyd, gyda’r caneuon yn llawn o fyd natur yn gwibio trwy ei thymhorau ac yn cynnig pelydrau o oleuni.

Pan darodd y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, roedd Gareth Bonello ar ddiwedd ei gyfnod ymchwil ar gyfer ei ddoethuriaeth.

‘Clasur bytholwyrdd’

“Gan gymryd caneuon gwerin o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, athrylith Gareth Bonello yw creu byd sain twyllodrus o syml sy’n rhychwantu arlliwiau amrywiol o’r blŵs,” meddai’r erthygl yn The Guardian am yr albwm.

“Rhydd i’r caneuon Cymraeg hyn naws Sandy Denny o eglurder di-liw, trugarog: gan eu gwisgo’n dyner gyda threfniannau hardd ar y gitâr, y piano a’r soddgrwth, mae ei lais canu yn fanwl gywir ond eto’n dyner.

“Mae’r albwm hwn yn glanio fel clasur bytholwyrdd.”

Teg edrych tuag adref

Elin Wyn Owen

Fe gafodd Galargan ei dewis yn Albwm Werin y Mis gan bapur newydd The Guardian