Mae mam sydd wedi byw gyda chanser a bachgen enillodd fedal aur yng Ngemau Ieuenctid Para’r Gymanwlad ymhlith y rhai sydd am dderbyn gwobrau mewn seremoni arbennig fydd yn cael ei dangos ar S4C nos Wener (Rhagfyr 29).

Elin Fflur, Owain Tudur Jones a Lloyd Lewis fydd yn cyflwyno Dathlu Dewrder, fydd yn cael ei darlledu am 7.30yh ac a fydd yn dangos y deg enillydd yn derbyn eu gwobrau arwyr tawel.

Mae Amy Dowden, y ddawnswraig broffesiynol o Strictly Come Dancing, ymhlith y wynebau cyfarwydd fydd i’w gweld yn llongyfarch yr arwyr, wrth iddi gyfarfod â Hollie McFarlane, sy’n byw yn Wrecsam ac yn dod dros ei brwydr â chanser.

“Mae cwrdd â Hollie y prynhawn yma wedi bod yn wych, mae hi’n berson anhygoel, a galla’ i uniaethu â hi drwy ein bod yn rhannu’r un daith,” meddai.

Mae Hollie McFarlane wedi ysgrifennu llyfr ar gyfer plant er mwyn eu helpu nhw i allu ymdopi â diagnosis o ganser, gan iddi ei chael yn anodd esbonio wrth ei merch Sydney yr hyn roedd hi’n mynd drwyddo.

“Wnaeth bob dim newid dros nos,” meddai.

“Y peth cyntaf wnes i feddwl oedd, ‘Sut dw i am ddweud wrth Sydney?’

“Mae o jyst yn rhywbeth mor anodd i’w esbonio i blentyn.

“Doeddwn i i erioed yn ofn marw, roeddwn i ofn gadael Sydney.

“Dyna be’ ydi’r ofn – cwffio, cwffio a dyna be’ wnes i.”

Gorchfygu rhwystrau

Mae Tomi Roberts-Jones o Gaerdydd yn un arall gafodd ei wobrwyo, ar ôl iddo fe orchfygu nifer o rwystrau yn ei fywyd.

Cafodd e strôc cyn cael ei eni, ac yn ddeg oed dechreuodd e ddioddef o epilepsi.

Cafodd e lawdriniaeth ar ei ymennydd yn gynharach eleni.

Fis Awst, enillodd e fedal aur yng Ngemau Ieuenctid Para’r Gymanwlad yn Trinidad & Tobago, yn ras y 100m i ddynion.

“Doeddwn i ddim yn meddwl y bydden i ‘nol yn rhedeg blwyddyn hyn,” meddai.

“Mae chwaraeon yn meddwl y byd i fi, os fydden i ddim yn gwneud chwaraeon sai’n gwybod beth fydden i’n gwneud.”

Dydy pethau ddim wedi bod yn hawdd iddo fe ers y dechrau, yn ôl ei fam Wendy.

“S’mo fe wedi bod yn rhwydd o’r cychwyn – ond mae Tomi wedi gwneud mor dda,” meddai.

“Mae chwaraeon wedi bod yn game changer i fywyd Tomi.

“Ni’n hynod browd o Tomi, yn cyrraedd llawn potensial sydd yn bwysig, a’i fod e’n cael yr anogaeth i gyrraedd y brig.”

Dywed Tanni Grey-Thompson, y Baralympwraig, fod Tomi Roberts-Jones “mor benderfynol… yn ymladd yn ôl gyda pherfformiadau anhygoel”.

“Dyma pryd mae chwaraeon yn rhagori ar bopeth, gan ddod â’r gorau ma’s o bobol,” meddai.