Ar yr olwg gyntaf, dydy caneuon gwerin Cymraeg traddodiadol a chaneuon ‘ghazal’ o India ddim yn gyfuniad amlwg. Ond mae casgliad ‘Ghazalaw’ ar eu halbwm cyntaf eponymaidd yn gwneud i’r gwrandawr deimlo fel pe bai’r cyfuniad y peth mwyaf naturiol yn y byd.
Mae lleisiau Gwyneth Glyn a Tauseef Akhtar yn rhoi bywyd newydd i hen benillion Cymraeg yr Oesoedd Canol a phenillion serch y ghazal o’r ddeuddegfed ganrif, gan greu’r rhith fod perthynas gynhennid rhwng y naill draddodiad a’r llall. Weithiau mae’r berthynas yn un gerddorol – fel y gwelir yng ngherddoriaeth sionc ‘Moliannwn/Ishq Karo’ – ac ar adegau eraill, un thematig ydyw, fel yn achos ‘Hud Se/Cainc yr Aradwr’ sy’n trafod pa mor fregus yw’r galon ddynol yng nghyd-destun serch. Beth bynnag yw natur y berthynas, mi gaiff ei thanlinellu o’r dechrau’n deg wrth i Gwyneth a Tauseef gyd-ganu penillion cyntaf ac olaf ‘Tum Nazar Se/Cyfri’r Sêr’ yn Wrdw. Mae perthynas y cantorion â’i gilydd hefyd yn datblygu ac yn cryfhau yn ystod taith yr albwm, o fod yn un gyfochrog i fod yn un blethedig, fel sy’n amlwg yn ‘Guzar Jaayenge Jab Din/Hiraeth’.
Ceir haen newydd, wreiddiol i’r berthynas yn y gân ‘Apni Ruswaayee/Sefyll yn Stond’, lle mae ymryson wrth i Gwyneth ymateb yn ei geiriau ei hun i Tauseef wrth iddo gyflwyno’r ghazal draddodiadol. Mae natur chwareus y berthynas rhwng y ddau gymeriad yn y stori’n cael ei hatgyfnerthu’n gerddorol gelfydd. Gellir dychmygu, drwy’r gerddoriaeth, y naill yn cwrso’r llall yn ofer.
Fe fydd nifer o’r caneuon yn hen gyfarwydd i ddilynwyr Ghazalaw drwy eu perfformiadau ar lwyfannau Cymru ac India dros y blynyddoedd diwethaf. Ond eto, ym mhob gwrandawiad fe gynigir profiadau newydd.
Gwreiddiau dwfn Gwyneth a Tauseef yn nhraddodiadau brodorol eu gwledydd a’u heithoedd yw gwir gryfder y cywaith uchelgeisiol ac arloesol hwn. Mae’r caneuon yn llifo’n ieithyddol rwydd ac effeithiol rhwng Wrdw a’r Gymraeg, weithiau mewn modd trawiadol gan ddefnyddio’r tabla, ond gan amlaf yn gynnil.
Er bod y cywaith yn cylchdroi bron yn llwyr o amgylch Gwyneth a Tauseef, daw awr fawr Georgia Ruth Williams, Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das i serennu yn ail hanner yr albwm gydag unawdau teimladwy yn gosod y llwyfan ar gyfer y cantorion yn ‘Khoobsorat Koi Sazaa/Cosb Mor Dlos’. Hon, yn anad dim, yw’r gân sy’n cynnig y darlun mwyaf cyflawn o’r cywaith hwn. Dro arall, mae’r cerddorion Indiaidd dan y chwyddwydr yn y gân ‘Lusa Lân’ wrth iddyn nhw gyfeilio i Gwyneth. Mae’r hiraeth sy’n gefndir i’r gân drist hon, ynghyd â dehongliad ingol Gwyneth o’r geiriau i gyfeiliant yr offerynnau Indiaidd yn ei chodi i fod yn gân y gellir ei dychmygu’n gefndir i un o olygfeydd Bollywood.
Rhaid i bob taith ddod i ben, ac fe ddaw taith Ghazalaw i ben a’u cylch yn gyflawn gyda’r gân ‘Jugnu Ke Sitara Tha/Hen Ferchetan’ – mae’r tempo’n codi a’r egni’n parhau i fyrlymu wrth i’r albwm gyrraedd y nodyn olaf.
Dyma albwm ar gyfer pob achlysur a phob emosiwn – gyda chaneuon i godi’r calon fel ‘Moliannwn/Ishq Karo’ ac eraill fel ‘Hud Se/Cainc yr Aradwr’ yn eich tywys i fyd – na, i baradwys – lle rydych yn gobeithio nad oes rhaid i’r daith drosiadol fyth ddod i ben.
Mae taith Ghazalaw yn dod i Theatr Mwldan, Aberteifi nos Sadwrn, ac yn mynd i Abertawe, Aberhonddu, Machynlleth, Caerdydd a Phwllheli. Bydd Kizzy Crawford yn cadw cwmni i Ghazalaw ar y nosweithiau hyn. Bydd y criw yn ymuno â Tauseef Akhtar ar gyfer dwy noson yn Llundain a Bradford ar ddiwedd eu taith.
Mae manylion llawn y daith yma, a rhagor o sylwadau gan Gwyneth Glyn am y daith yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.
Adolygiad: Alun Rhys Chivers