Mae darn o waith gan Leonardo da Vinci wedi ei werthu am £341m mewn ocsiwn – y swm uchaf erioed am waith celf mewn ocsiwn neu werthiant preifat.
Paentiad o Iesu Grist yw’r darn – ‘Salvator Mundi’ neu ‘Iachawdwr y Byd’ yw ei enw – a’r gred yw ei fod wedi cael ei greu gan y meistr yn yr 16eg ganrif.
Cyn-ddeiliad y record oedd paentiad ‘Menywod Algiers’ gan Pablo Picasso, a gafodd ei werthu mewn ocsiwn am £136m.
Tan yn gymharol ddiweddar, roedd ysgolheigion yn credu mai un o ddisgyblion Leonardo da Vinci oedd wedi paentio Iesu, ac mae’n dal i fod yn destun dadl.
Roedd brenin Siarl I yn berchen ar y darlun am gyfnod, ac mi ddiflannodd am ganrifoedd cyn ailymddangos yn 1900.