Archwilio’r ymdeimlad o le, a’r cysylltiad dwfn â’r dirwedd, oedd prif bwrpas gwaith buddugol enillydd gwobr Prif Artist Eisteddfod T eleni.
Yn ôl Rhiannon Gwyn, mae cael ei magu yn ardal chwarelyddol Sling ger Bethesda yn dylanwadu’n gryf ar ei gwaith creadigol.
Roedd yn “fraint ar y mwyaf” iddi dderbyn y wobr am ei gwaith cerameg, sy’n defnyddio llechi gyda phrosesau cerameg.
Mae’r diwydiant llechi yn rhan fawr o hunaniaeth Rhiannon, ac felly roedd yn naturiol ei fod yn dylanwadu arni, meddai.
“Sypreis neis”
“Braint ar y mwyaf, a sypreis neis oedd ffeindio allan fy mod wedi ennill,” meddai Rhiannon Gwyn wrth golwg360.
“Dw i methu disgwyl cael derbyn y tlws, sydd wedi ei greu gan Ann Catrin Evans, a’i osod ar silff yn fy stiwdio!”
Lisa Eurgain oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth, ac roedd hi’n uchel ei chanmoliaeth tuag at safon y gystadleuaeth.
“Dw i wrth fy modd efo gwaith Lisa, ac yn ei hedmygu hi gymaint fel artist, felly roedd o’n teimlo’n arbennig iawn mai hi oedd yn dyfarnu’r tlws.
“Fel artist sy’n gweithio’n yn fy myd bach fy hun mae’n bwysig cael adborth allanol bob hyn a hyn er mwyn cael cadarnhad bod fy ngwaith ar y trywydd iawn, felly fydd sylwadau positif Lisa yn gymorth mawr wrth i mi ddatblygu fy ngwaith.”
“Cysylltiad dwfn â’r dirwedd”
Yn ei beirniadaeth, cyfeiriodd Lisa Eurgain at ba mor amlwg yw cariad Rhiannon Gwyn tuag at ogledd Cymru drwy ei gwaith.
“Dw i’n lwcus bod fy nghartref yn rhan o dirwedd hyfryd, un sydd wedi cael ei hamgylchynu gan y Carneddau ac sydd yng nghysgod chwarel drawiadol,” esboniodd Rhiannon.
“Mae’r gwaith yn archwilio ymdeimlad o le, a’r syniad o fod â chysylltiad dwfn â’r dirwedd.
“Mae gennyf ddiddordeb mewn sut y gall deunyddiau weithredu fel marcwyr hunaniaeth; yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas trwy adael olion emosiwn a chof ar ein hamgylchedd.
“Mae hyn yn cynnwys archwilio potensial llawn llechi drwy eu cynnwys gyda phrosesau cerameg i greu gwrthrychau sy’n portreadu ffurfiau o’r tir.
“Mae hyn yn rhan o broses gylchol lle rwyf i, sydd wedi cael fy siapio’n bersonol gan y dirwedd o’m hamgylch, yn ffurfio ac yn siapio’r deunyddiau crai ddaw ohoni.
“Drwy gyfrwng y gwrthrychau rwy’n eu creu, dw i’n gobeithio dal ac ennyn yr un emosiynau pwerus ag sydd i’w cael yn y dirwedd, profiad sy’n gyffredinol i bawb waeth beth fo’u lleoliad.
“Dw i’n gobeithio y gall y gwaith roi’r un llawenydd i bobol â phe baent yn gweld golygfa hardd eu hunain.”
“Amhosib” peidio arbrofi â llechi
Graddiodd Rhiannon gyda gradd dosbarth cyntaf Artist Dylunydd: Gwneuthurwr o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2019.
Ar ôl blwyddyn breswyl ar raglen ‘Inc Space’ i Raddedigion Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae hi bellach wedi dychwelyd adref i’r Gogledd.
“Mae’r fro lle cefais fy magu yn bodoli oherwydd y diwydiant chwarelyddol, ac felly yn naturiol mae’r dirwedd yn rhan bwysig o’m hunaniaeth,” meddai.
“Roedd bron yn amhosib i mi beidio arbrofi â llechi gan fod cymaint ohono o fewn cyrraedd, a thomenni ohono yn y cefndir trwy gydol fy mywyd.
“Roeddwn yn gallu gweld bod cymaint o botensial i greu efo llechan ond ro’n i’n teimlo ei fod yn cael ei ystyried fel deunydd diflas gan mai ei brif ddefnydd yw creu cerrig beddi a thoeon.
“Roeddwn felly yn benderfynol o geisio creu rhywbeth newydd a chyffrous efo’r llechan, a chefais fy annog wrth astudio ar y cwrs Artist Dylunydd: Gwneuthurwr yng Nghaerdydd i arbrofi gymaint ag y gallwn.
“Gan fod llechi wedi deillio o glai roedd yn gwneud synnwyr imi geisio cyfuno’r ddau ddeunydd a defnyddio llechi gyda phrosesau cerameg.”