Stephen Kingston wrth ei waith yn Galeri, Caernarfon
Mae prosiect newydd yng nghanolfan gelfyddydau Galeri yng Nghaernarfon yn rhoi cyfle i artistiaid amaturaidd greu darn o waith yn fyw mewn gofod cyhoeddus.

Mae prosiect ‘Y Wal’, yn rhoi cynfas wag i artistiaid, a’r rhyddid i greu beth bynnag sy’n mynd â’u bryd, wrth gael adborth gan y cyhoedd.

Maen nhw’n cael mis i greu eu darlun, tra bod y cyhoedd yn cerdded o gwmpas neu’n eistedd i lawr gyda phaned yn eu gwylio wrth eu gwaith.

Mae’r gwaith yn cael ei arddangos am ddau fis ac wedyn, mae’r wal yn cael ei chlirio ar gyfer yr artist nesa’…

Ysbrydoliaeth

Yr artist sydd wrthi ar y funud yw Stephen Kingston, dyn camera o Gaernarfon sy’n paentio yn ei amser sbâr.

Mae o wedi dewis creu portread o’r bobol sy’n cerdded ar Faes Caernarfon, ac yn gweithio ar ffurf cartŵn du a gwyn gan ddefnyddio siarcol.

Nid oes stori benodol y tu ôl i’w ddarlun, meddai, ond mae’n gobeithio y bydd y bobol y deall yr hiwmor y mae o’n trio ei gyfleu.

“Dwi’n trio creu rhywbeth sy’n chwa o awyr iach ac mae’r cyfle i ymgynghori hefo’r cyngor wedi bod yn grêt.”