Fel rhywun hefo colled clyw synhwyraidd cynyddol, mae microffôn yn medru gwneud y gwahaniaeth rhwng fy mod i’n medru dilyn a deall cyfranwyr mewn cynhadledd, a jyst clywed rhyw garbwl sy’n golygu dim i mi. Game changer!

Ond yn anffodus, dro ar ôl tro, mae fy hawl i glywed mewn cyd-destun cymdeithasol fel hyn yn cael ei herio gan bobol sy’n gwrthod defnyddio meicroffôn. Mae hyn yn siomedig… ac yn achosi i mi wylltio’n gacwn! Ond beth yw’r broblem, tybed?

“Dwi ddim yn meddwl bo’ fi angen y meicroffôn rili…”

“Meddwl bod fy llais yn ddigon uchel, ynde, ha ha!…”

“Dach chi gyd yn medru fy nghlywed i eniwê, tydach?…”

Taswn i’n cael punt bob tro dwi’n clywed y math yma o sothach, fyswn yn medru fforddio’r teclynnau clyw aildrydanadwy, bluetooth hynny sy’n medru cysylltu yn syth i‘r ffôn symudol – eto, game changer, yn enwedig ar gyfer cyfweliadau radio (tua £3,000 gan bo chi’n gofyn!).

Ac os ychwanegwn at hyn y diffyg dal y meic wrth y gwefusau, a’i ddal i’r ochr, fel nad oes dim pwynt cael meic o gwbl… wel, mae yna lot o dechnoleg arall dwi’n awchu amdano, gan gynnwys metronôm dirgrynnol gwisgadwy…

Esbonio fy nghlyw

Pam dw i angen i bobol defnyddio meic, tybed? Oni ddylai fy nheclynnau clyw fod yn ddigon? Wel yn anffodus, nid yw teclynnau clyw yn yr un league â sbectol. Dydyn nhw ddim yn medru ‘cywiro’ i’r un graddau – a hynny hefo colled clyw arferol.

Ar ben hyn, mae fy ngholled clyw i yn dra gwahanol i’r arfer, gan taw oherwydd Syndrom Waardenburg Math 1 yw e. Dwi wedi colli pigment yn fy ngwallt, llygaid, croen ac, yn ôl pob tebyg, y cochlea – ia, mae’r blew bach wedi troi’n wyn… efallai hyd yn oed mewn un streipen wen… dwi’n hoffi meddwl! (Jyst er mwyn hwyl!)

Waardenburg-ear
Clust Waardenburg

A cholled amledd isel sydd gen i, sy’n anghyffredin iawn. Fel arfer, mae colli clyw o’r tu allan mewn, felly amledd uchel sydd yn mynd yn gyntaf – ond mae fy amledd uchel i dal yn boenus o dda, sy’n medru drysu pethau weithiau.

Mae fy ngholled hefyd yn wonky, felly weithiau wna i glywed rhywbeth o un ochr, ond tybio taw o’r ochr arall dw i wedi ei glywed.

Ychwanegwch at hyn y ffaith fod tinitws yn datblygu fel ymateb yr ymennydd i’r ffaith fod y clyw ddim yn gwneud synnwyr, ac mae ganddoch chi haen o synau dryslyd, nonsens dros ben llestri o bob dim. A phetasai hynny ddim yn ddigon, mae blino yn gwneud hyn yn waeth, felly mewn sefyllfa lle rwy’n gorfod canolbwyntio i glywed – yr hyn a elwir yn effortful listening, rwy’n blino’n hawdd, ac yna’n clywed llai fyth wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen!

O ia, ac mae gen i hyperacusis lle mae rhai pethau’n anesboniadwy o uchel, yn boenus ac yn peri braw. Mae hi hefyd wedi dod i’r amlwg fy mod yn dangos symptomau o anhwylder prosesu clywedol, fel fy nhad.

Clywed fatha Terminator

Sut, felly, ydw i’n llwyddo i glywed-ddehongli unrhyw beth o gwbl, hefo’r ffasiwn halibalŵ synhwyrol wrthi’n cicio stŵr? Wel, trwy’r hyn rwy’n ei alw’n ‘ddyfalu-clywed’. Mae pawb yn ei wneud weithiau, hyd yn oed pobol sy’n clywed.

Meddyliwch am ‘glywed’ rhywun yn siarad. Am eiliad, rydych yn ystyried, yn prosesu, ac yn sylweddoli beth maen nhw wedi’i ddweud – drwy gyfuniad o resymeg ar sail y cyd-destun, y person, a’r sgwrs, ac hefyd y darnau wnaethoch chi eu clywed.

Dyma sut dw i’n ‘clywed’ o hyd, a dw i’n hynod o grefftus. Dw i hefyd wedi datblygu rhywfaint o allu i ddarllen gwefusau a symudiad corff – byddaf yn ynganu geiriau chwaraewyr rygbi, megis ‘I didn’t kill the ball’, cyn i’r sylwebyddion gael y wybodaeth.

Dw i’n hoffi meddwl amdano fel yr hyn rydych yn ei weld trwy helmed ‘Terminator’ neu ei debyg; rhan o’r gair mewn lle, nifer o sillafau, ‘sidro cyd-destun, yr holl wybodaeth hefo’i gilydd a…

Ond mae pob llythyren y medraf ei glywed oherwydd meicroffôn, pob tamaid o wybodaeth yn werthfawr.

Anghyfleus ac anghyfforddus

Yn amlach na pheidio, mae pobol yn trio gwneud jôc am orfod dal y meic, neu’n dweud ei fod yn anghyfleus neu’n anghyfforddus. Wel, mae fy nheclynnau clyw yn cosi ac yn rhwbio, a meicroffonau i’r clustiau yw’r rheini.

A rhaid gofyn, wrth eu gweld nhw’n gwneud ystumiau a chwerthin, ydan nhw’n meddwl fod byddardod yn amusing? Achos dw i ddim, ynde, a dyma fy mywyd bob dydd, a dw i jyst yn trio gwneud y gorau ohoni.

Ac ydw, dw i’n cofio bod yn nerfus mewn nosweithiau meic agored, ac mae’n debyg y gwnes i sibrwd fy ngeiriau, ond mae yna dystiolaeth i mi o leiaf drio defnyddio meicroffôn i gael fy nghlywed.

Sara_2012
Sara yn ‘Viva Voce’ 2012

Felly, sori ei fod o’n boen, a sori os yw’n anghyfleus, ond a wnewch chi, bobol sy’n medru clywed, ddod dros eich braint a’ch syniadau hunanbwysig, a jyst defnyddio’r flipin’ meicroffôn, plîs?!