Bydd perfformiad wedi’i seilio ar stori Cantre’r Gwaelod yn cael ei gynnal yn Aberystwyth er mwyn dathlu hanner canmlwyddiant Canolfan y Celfyddydau yr wythnos hon.

Gan ddechrau fory (dydd Mercher, Mai 3), bydd ABERETWM yn dathlu DNA creadigol “unigryw” y dref, gan dywys cynulleidfaoedd ar daith ar draws canol Aberystwyth tan ddydd Llun nesaf (Mai 8).

Marc Rees yw cyfarwyddwr artistig y prosiect sy’n cyfuno sawl celfyddyd ynghyd ag elfennau digidol.

Bydd y perfformiad yn dod i ben gyda choncerto cerddorol rhyngweithiol, a bydd nifer o berfformwyr o ysgolion a grwpiau lleol yn cymryd rhan.

Fe fydd hanes y tri ymgyrchydd ddechreuodd ddeiseb heddwch gafodd ei llofnodi gan 390,000 o fenywod yng Nghymru yn ystod y 1920au a’i chyflwyno i fenywod yr Unol Daleithiau, yn cael ei hadrodd yn y perfformiad hefyd.

Mae’r ddeiseb, sy’n saith milltir o hyd yn ôl y sôn, wedi dychwelyd i Aberystwyth mewn cist dderw Gymreig yn ddiweddar.

‘Arwyddocâd arbennig’

Dywed Marc Rees ei bod hi’n “fraint” cael ei wahodd i greu’r digwyddiad hwn i nodi’r garreg filltir.

“Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn sefydliad sy’n annatod i guriad calon creadigol Aberystwyth a’r cyffiniau, sydd wedi bod yn darparu gweithgaredd diwylliannol a chymunedol ers hanner canrif,” meddai.

“Mae gan y Ganolfan a’r dref arwyddocâd arbennig i mi gan mai dyma’r lle, dros 30 mlynedd yn ôl, y bûm yn cyfarfod â’r diweddar artistiaid gwych Mike Pearson a Cliff McLucas, sef ‘Brith Gof’, y cwmni Theatr Gorfforol Gymreig arloesol a gafodd ddylanwad enfawr ar fy ngyrfa greadigol.

“Felly mae ABERETWM hefyd yn eu hanrhydeddu nhw a’u dylanwad arnaf fi a llawer iawn o rai eraill.”

‘Adlewyrchu pum degawd’

“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Marc a thîm anferth o artistiaid, perfformwyr ac unigolion creadigol ar ABERETWM, ac i weld gymaint o aelodau’r cymunedau lleol yn cymryd rhan yn y prosiect ar draws yr wythnos,” meddai Louise Amery, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

“Wrth i’r Ganolfan ddathlu ei hanner canmlwyddiant mae’n brosiect gwych i adlewyrchu ei phum degawd o waith, a hefyd i edrych ymlaen at yr hanner can mlynedd nesaf  gyda digwyddiad sy’n seiliedig ar  Aberystwyth.”

Bydd gwahanol rannau o’r perfformiad yn cael eu cynnal ar hyd y dref rhwng fory a Mai 8, ac mae’n bosib cael mwy o wybodaeth am y gwahanol elfennau ar wefan Canolfan y Celfyddydau.