Bydd Half/Time, y band pync Māori, yn perfformio ochr yn ochr ag artistiaid Cymraeg fel rhan o raglen cyfnewid diwylliannol.
Tyfodd y band yn ystod y pandemig, ac un bwriad oedd ganddyn nhw oedd mynd i’r afael ag effeithiau ymerodraeth a gwladychu yn Seland Newydd.
Yn ôl y Guardian, mae’r band yn gobeithio tanio sgwrs am yr hyn mae’n ei olygu i greu caneuon mewn ieithoedd brodorol.
Mae’r rhaglen yn ffrwyth gwaith prifysgolion Caerdydd a Waikato, sydd wedi magu cysylltiadau â’i gilydd dros y blynyddoedd diwethaf, a’u bwriad yw tynnu sylw at ddwy iaith a dau ddiwylliant lleiafrifol sydd wedi dioddef gormes.
Bydd Half/Time yn perfformio yng ngŵyl Focus Wales yn Wrecsam, gydag Adwaith hefyd yn ymddangos, ac er nad yw’r band o reidrwydd yn teimlo bod pync yn benthyg ei hun i’r iaith, mae’r ymdeimlad o gymuned a phrotest yn rhywbeth sydd ganddyn nhw’n gyffredin.
Enw’r prosiect yw Pūtahitanga, sy’n cyfeirio at ddod â chymuned ynghyd ar un pwnc cyffredin.