Mae Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 wedi cael eu dadorchuddio mewn noson arbennig yn Llanelli heno (Ebrill 28).

Ardal amaethyddol a diwydiannol yr Eisteddfod, sy’n cael ei chynnal yn Llanymddyfri, sydd wedi ysbrydoli’r Gadair.

Bedwyn Rees o ardal Hermon, Cynwyl Elfed sydd wedi’i chynllunio a’i chreu, ac mae’r Goron yn gywaith rhwng trigolion, disgyblion a chrefftwyr y sir.

Cafodd y Goron a’r Gadair eu datgelu yng Ngwesty Parc y Strade yng nghwmni gwirfoddolwyr, staff a chefnogwyr yr Urdd, yn ogystal â’r cyflwynydd Huw Edwards.

Rhoddir y Gadair gan Gwmni T Richard Jones Cyf o Betws, ac mae dylanwad Sir Gaerfyrddin i’w weld drwy siâp y breichiau, y wlanen ar y glustog a dail derwen aur sy’n cynrychioli’r Hen Dderwen – rhan amlwg o hanes Caerfyrddin.

“Mae’n fraint i mi gael y cyfle yma i greu Cadair Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 gan fod yr Urdd ac yn benodol Aelwyd Hafodwenog wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd,” meddai Bedwyn Rees, sy’n berchen ar gwmni teuluol Old Oak Kitchens sy’n arbenigo mewn creu ceginau a dodrefn â llaw.

“Roedd y mudiadau hyn yn wraidd i ddatblygu ffrindiau oes â chael profiadau gwerthfawr.”

Roedd y crefftwr yn awyddus i sicrhau mai deunyddiau lleol oedd yn cael eu defnyddio i greu’r gadair.

“Derw Cymreig yw’r pren. Mae’r gwlân wedi ei wehyddu yn Llanymddyfri gan Haydn Sinclair yn arbennig i’r Gadair.

“Mae’r clustogwaith wedi ei wneud yn Llangadog gan Mick Sheridan, ac yna’r dail derwen aur wedi eu gwneud yn ardal Capel Iwan ger Castell Newydd Emlyn gan Elen Bowen.”

Llun gan Tudur Dylan Jones

Y Goron

Cafodd Coron Eisteddfod yr Urdd ei chreu gan grŵp o grefftwyr sydd â chysylltiad gydag ysgolion uwchradd yr ardal, sef Luned Hughes, Richard Davies ac Endaf Price.

Roedd cael mewnbwn pobol ifanc yr ardal yn bwysig i’r pwyllgor, a chafodd ieuenctid y sir gyfle i rannu syniadau.

Penderfynwyd mai diwydiant, traddodiadau lleol ac Afon Tywi fyddai’r blaenoriaethau yn nyluniad y Goron.

Mae Sir Gâr yn frith o ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiant copr, ynghyd â’r diwydiant tun yn Llanelli.

Mae’r ardal yn cael ei alw’n Tinopolis, a gan mai cwmni Tinopolis sydd wedi noddi’r Goron roedd yn bwysig cynnwys tun fel rhan o’r cynllun.

Mae fframwaith cwrwgl, sy’n adnabyddus iawn yn Sir Gar, wedi ei ddefnyddio ben i waered i greu’r cap ac arian yn creu’r clymau.

Ar frig y Goron, mae llinell yn dangos taith y Porthmyn dros fryniau a dyffrynnoedd yr ardal. Mae llinell trwy ganol y Goron yn adlewyrchu taith Afon Tywi o’i tharddiad uwchlaw Brianne lawr i Lansteffan.

Dewisodd gwmni Tinopolis linell o waith William Williams Pantycelyn, ‘Mae dy eiriau fel gwin’, ac mae’r grefftwraig Mari Bennet wedi creu ysgrythur y geiriau hynny o fewn yr afon ar y Goron.

‘Diwylliant a hanes yr ardal’

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau eu bod nhw’n edrych ymlaen yn arw at yr Eisteddfod ac yn “gobeithio’n fawr y bydd teilyngdod er mwyn i bobol fwynhau campwaith y Gadair a’r Goron yma am flynyddoedd i ddod”.

“Diolch i’r crefftwyr, y pwyllgorau a’r noddwyr am eu gwaith caled a’u cefnogaeth, yn sicrhau fod gan Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin wobrau unigryw sy’n adlewyrchu diwylliant a hanes cyfoethog yr ardal hyfryd yma o Gymru”.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng Mai 29 a Mehefin 3. Bydd y Seremoni Cadeirio’n cael ei chynnal ar y dydd Iau, a’r Coroni ar y dydd Gwener.