Cafodd yr holl docynnau ar gyfer gig cwbl Gymraeg ei lein-yp yn Llundain nos Sadwrn (Ebrill 22) eu gwerthu, ac mae’n debyg bod rhagor o gigs tebyg i ddod, meddai’r trefnydd.
Cafodd y gig ei drefnu gan y wefan gerddoriaeth annibynnol Klust, gafodd ei sefydlu gan Owain Williams y llynedd.
Yn diddanu ar y llwyfan yn y Victoria Dalston roedd Sŵnami, Malan, Wrkhouse a Talulah.
Bwriad Owain Williams ers sefydlu Klust oedd cynnal gig Cymraeg yn Llundain, ond amseru perffaith oedd fod Sŵnami wrthi’n trefnu dyddiadau eu taith i hyrwyddo’u halbwm diweddaraf, Swnamii.
Roedd 200 o bobol yn y gig, ac mae’n brawf fod galw am fwy o gigs Cymraeg tu hwnt i Gymru, ac yn hwb i fynd ati i drefnu rhagor, meddai Owain Williams.
‘Llefydd newydd a phobol newydd’
Mae’r Victoria Dalston eisoes wedi cefnogi ambell artist Cymraeg fel Ynys a Gillie, ond mae’n debyg mai gig Klust oedd y tro cyntaf i gig hollol Gymraeg gael ei gynnal yno.
“Mae’n beth arbennig iawn,” meddai Owain Williams wrth golwg360.
“Mae o’n bwysig bod gigs Cymraeg yn cyrraedd llefydd fel hyn, yn yr ystyr bod pobol wahanol yn cael y cyfle i wrando ar fiwsig Cymraeg.
“Ddim yn aml rwyt ti’n gweld gigs Cymraeg yn Llundain, felly mae o’n cŵl gallu dangos artistiaid Cymraeg i lefydd newydd a phobol newydd.
“Roedd o’r tro cyntaf i Wrkhouse, Talulah a Malan chwarae yn Llundain, a’r ail waith i Sŵnami, felly roedd o’n gyfle da iddyn nhw allu chwarae yn fyw mewn lle dydyn nhw ddim o hyd yn cael y cyfle i chwarae hefyd.”
Dim angen troi at y Saesneg i apelio
Gyda phoblogrwydd y gig yn amlwg trwy werthiant y tocynnau, ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ydi’r gig yn brawf nad oes angen troi at y Saesneg er mwyn denu cynulleidfa tu hwnt i Gymru?
“Ychydig o flynyddoedd yn ôl, daeth yr erthygl gan y BBC efo Sŵnami yn trafod bod dim rhaid troi at y Saesneg er mwyn gallu perfformio tu allan i Gymru,” meddai Owain Williams.
“Roedd o’n cŵl gallu chwarae ar y syniad yna efo artistiaid oedd i gyd yn Gymraeg, a’r setiau i gyd yn Gymraeg.
“Roedd o fel takeover yn cael artistiaid Cymraeg yn chwarae mewn hwb miwsig fel Llundain.
“Wnaeth o ddangos bod hi’n bosib gwerthu lleoliad fel yna allan gyda lein-yp cwbl Gymraeg, a wnaeth o ddangos bod yna werth yn y syniad a bod yna sgôp i wneud mwy.”
‘Trio pethau newydd allan’
Yn cloi’r noson, roedd Sŵnami yn chwarae detholiad o’u halbwm diweddaraf ac ambell hen glasur y band.
“Doedden ni ddim yn siŵr faint fysa’n dod neu pwy fysa’n dod, ond roedd o fel bo chdi yng Nghymru,” meddai Ifan Davies o Sŵnami wrth golwg360.
“Roedd yr ystafell yr un mor llawn ag oedd o yng Nghaerdydd a Chaernarfon, roedd o’n cŵl.
“Roedd gen ti lwyth o Gymry Llundain, ond hefyd llwyth o bobol doedden ni erioed wedi’u gweld na chyfarfod o’r blaen yn canu ein caneuon, felly roedd o’n gymysgedd da o bobol.
“Doedden ni ddim yn gwneud o achos yr hen gred bod rhaid i ti fynd i lefydd fel Llundain to make it, rydan ni jest yn nabod lot o Gymry Cymraeg sy’n byw yn Llundain a meddwl, ‘Duw, awn ni yna i wneud gig gan bo ni heb wneud ers sbel’.
“Mae bandiau Cymraeg yn licio mynd i chwarae mewn llefydd gwahanol a venues gwahanol hefyd.
“Dim ond hyn a hyn o lefydd mae bandiau Cymraeg yn gallu chwarae yng Nghymru, a phan wyt ti wedi bod yn gwneud o ers blynyddoedd fel ni, ti eisiau trio pethau newydd allan.
“Roedd o’n brofiad da cael mynd i rywle gwahanol a gobeithio bod yna bobol newydd wedi clywed y miwsig yng nghanol y wynebau a’r acenion cyfarwydd oedd yno.”
Ymlaen i’r nesaf
Roedd y gig yn gymysgedd o ryw 60% o siaradwyr Cymraeg a 40% o siaradwyr Saesneg, meddai Owain Williams.
Mae o’n teimlo bod y ddemograffeg oedd yno yn brawf fod galw ehangach am gigs Cymraeg yn Llundain, ac mewn dinasoedd eraill tu hwnt i Gymru hefyd.
“Yn bendant, mae yna alw am gigs Cymraeg yno,” meddai.
“Gyda’r tocynnau wedi gwerthu allan, mae hwnna’n dweud yn ei hun bod yna alw am fwy yn Llundain.
“Fysa fo’n dda gallu adeiladu rhywbeth mwy hirdymor o hyn rŵan, a chymryd hynna ymlaen i’r cam nesaf a mynd ag artistiaid Cymraeg draw i lefydd gwahanol.
“Wnaeth Klust gychwyn allan fel gwefan, wedyn wnes i wneud y cylchgrawn y llynedd, ac yn amlwg wedyn rhoi hynna mewn i rywbeth byw efo’r showcase yma, felly dal i ddatblygu’r holl beth a mynd â chyfres o gigs i lefydd gwahanol fysa’r peth naturiol i wneud, dw i’n meddwl.”